Dileu cerdyn coch Fernandez

Federico Fernandez (chwith)
Image caption Federico Fernandez (chwith)

Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi dileu cerdyn coch amddiffynnwr Abertawe Federico Fernandez.

Roedd y chwaraewr 25 oed wedi ei anfon o'r cae yn Anfield pan gollodd yr Elyrch 2-1 i Lerpwl yng Nghwpan y Gynghrair.

Cafodd ei gosbi yn wreiddiol am herio Philippe Coutinho ac fe fyddai wedi ei wahardd am dair gêm.

Ond apeliodd yr Elyrch yn erbyn penderfyniad y dyfarnwr Keith Stroud.

"Mae'n amlwg nad yw hon yn drosedd cerdyn coch," meddai'r rheolwr Garry Monk yn syth ar ôl y gêm.

Bydd y chwaraewr o'r Ariannin ar gael i chwarae yn erbyn Everton ddydd Sadwrn.