Mesur Cynllunio: 'Siom' dros ddiffyg ystyriaeth i'r Gymraeg

Adeiladu tai
Image caption Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai bwriad cyflwyno'r mesur yw symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio

Cynyddu mae'r pryderon nad yw Mesur Cynllunio Llywodraeth Cymru yn cynnwys canllawiau fydd yn amddiffyn y Gymraeg.

Pan gafodd y mesur drafft ei gyhoeddi fis Rhagfyr diwethaf daeth beirniadaeth gan ymgyrchwyr nad oedd yn cynnwys canllawiau cadarn am yr iaith.

Bellach mae arweinydd Llafur Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi anfon llythyr at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol o fewn y system gynllunio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn y llythyr ac y bydd Carl Sargeant yn ymateb i sylwadau Kevin Madge maes o law.

Llai na 43%

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai bwriad cyflwyno'r mesur yw symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio.

Yn wreiddiol dywedodd y gweinidog mai nid yn y mesur, ond trwy gynlluniau datblygu lleol, y dylid ystyried effeithiau cynllunio ar y Gymraeg.

Ond mae arweinwyr rhai cynghorau, ac arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge yn eu plith - yn dweud eu bod nhw "wedi eu siomi" nad yw'r mesur yn darparu'n ddigonol ar gyfer y Gymraeg.

Fe ddaeth i'r amlwg wedi Cyfrifiad 2011 bod nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y wlad wedi gostwng ac yn Sir Gaerfyrddin mae'r nifer wedi gostwng i lai na 43%.

Siom

Yn ei lythyr mae Mr Madge yn nodi bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi adroddiad wedi iddyn nhw ddadansoddi'r ffactorau oedd wedi dylanwadu ar ddirywiad y Gymraeg yn y Sir.

Dywed y llythyr bod y Cyngor yn "cydnabod fod y Cyngor Sir a Pharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog yn arwain ar weithredu polisïau lleol", ond eu bod nhw'n teimlo bod "angen canllawiau a chyfarwyddid cadarnach ar lefel genedlaethol i gefnogi ardaloedd tebyg i ni sy'n cael ein hystyried yn gadarnleoedd traddodiadol i'r iaith Gymraeg i wneud penderfyniadau cynllunio sy'n cefnogi cynaladwyedd ein cymunedau dwyieithog i'r dyfodol."

Â'r llythyr ymlaen i nodi mai un o argymhellion yr adroddiad yw "bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys yr iaith Gymraeg fel ystyriaeth faterol yn rhan o'r Bil Cynllunio a'r Bil Tai".

Mae'r llythyr hefyd yn datgan: "Dymunwn nodi siom nad yw'r Bil yn darparu llawer ynglŷn â'r iaith Gymraeg."

Straeon perthnasol