Dod o hyd i ddyn fu ar goll yn Eryri

Andrew Riches
Image caption Cafwyd hyd i Mr Riches ar faes gwersylla yn Eryri

Mae dyn o Lundain yn ddiogel, wedi iddo ddiflannu o'i gartref yn Llundain ddechrau'r wythnos.

Doedd neb wedi gweld Andrew Riches, 46 oed, ers iddo adael ei fflat yn Lewisham ddechrau'r wythnos, ond cafodd ei gar ei weld yn teithio i gyfeiriad Eryri ddydd Mercher.

Roedd Mr Riches yn gyfarwydd â'r ardal, ac wedi treulio amsr yn gwersylla yno yn y gorffennol.

Cafwyd hyd iddo ar faes gwersylla bnawn ddoe.

Straeon perthnasol