Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru

Aberystwyth 1-0 Drenewydd

Aeth Aberystwyth ar y blaen wedi 10 munud diolch i gic gosb lwyddiannus gan Chris Venables.

Derbyniodd chwaraewr Aberystwyth, Craig Williams, ddau gerdyn melyn gan gael ei anfon o'r cae funudau'n unig cyn diwedd y gêm.

Ond methodd Drenewydd â gwneud y gorau o hynny, a llwyddodd Aberystwyth i ddal gafael ar eu mantais hyd y diwedd.

Derwyddon Cefn 3-1 Prestatyn

Aeth Derwyddon Cefn ar y blaen o fewn dau funud i'r gêm gychwyn, a chyn i Brestatyn hyd yn oed feddwl am ymateb, roedd y tîm cartref wedi sgorio dwy gôl arall - un yn y pumed munud a llall yn y seithfed munud.

A'r un chwaraewr sgoriodd y tair, Lee Healey, gan sicrhau record newydd ar gyfer y 'hat-tric' cyflymaf wedi'r chwib gyntaf, yn Uwch Gynghrair Cymru.

Ond llwyddodd Prestatyn i ail-ennill ychydig o hunan-barch wrth i Andy Parkinson sgorio ym munudau olaf y gêm.