Arwydd Gaeleg yn lle un Cymraeg mewn siop yn Abertawe

Arwydd Asda Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd yr arwydd ei osod y tu allan i archfarchnad Asda yn Nhreforys

Mae archfarchnad wedi gaddo tynnu arwydd ddwyieithog i lawr o siop yn Abertawe, gan ei fod yn cynnwys gair mewn Gaeleg yn hytrach na'r Gymraeg.

Cafodd yr arwydd, sy'n dweud 'Parcadh - Parking', ei osod y tu allan i siop Asda yn Nhreforys, Abertawe.

Mae Asda wedi gaddo cywiro'r arwydd, gan ddweud: "Diolch i'r siopwr craff wnaeth sylwi ar y camgymeriad. Bydd arwyddion newydd yn cael eu gosod yn fuan."

Daw'r camgymeriad ddyddiau ar ôl i archfarchnad yn Aberystwyth ymddiheuro am arwydd Cymraeg ar beiriant arian oedd yn cynnig "codiad am ddim".

Straeon perthnasol