Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru

Caerfyrddin 0-2 Bangor

Fe wnaeth Bangor fanteisio ar ôl i Gaerfyrddin orfod chwarae hanner y gêm gyda 10 dyn i sicrhau buddugoliaeth oddi cartref.

Cafodd Prosser gerdyn coch yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, gan roi mantais glir i'r ymwelwyr i'r ymwelwyr yn yr ail hanner.

Daeth y gôl gyntaf gan Siôn Edwards wedi awr o chwarae cyn iddo ychwanegu ail yn fuan wedyn.

Gap Cei Cona 1-1 Port Talbot

Cyfartal oedd hi yn yng Nghei Cona, wrth i'r dim cartref gipio pwynt ar ddiwedd y gêm.

Martin Rose roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 54 munud, yn dilyn hanner cyntaf heb sgôr.

Gydag eiliadau yn unig yn weddill, sgoriodd George Horan mewn amser ychwanegol i sicrhau pwynt i'w dim.

Rhyl 0-1 Bala

Roedd na driphwynt i'r Bala yn y Rhyl ddydd Sadwrn, sy'n eu symud yn agosach at y Seintiau newydd ar frig y tabl.

Smith oedd yr arwr gan rwydo wedi 57 munud.

Y Seintiau Newydd 1-1 Airbus UK Brychdyn

Cyfartal oedd hi brynhawn Sul yn Park Hall rhwng Y Seintiau Newydd ac Airbus UK.

Michael Wilde sgoriodd gyntaf i'r tîm cartref gan rwydo wedi 11 munud, ond sicrhaodd Glenn Rule bwynt i'r ymwelwyr gyda'i ergyd.

Y Seintiau sy'n parhau ar frig y tabl, saith pwynt o flaen Bala yn ail, tra bod Airbus yn drydydd.