Everton 0-0 Abertawe

Jonjo Shelvey Image copyright Getty Images

Llwyddodd Abertawe i sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Everton, er iddyn nhw chwarae gyda 10 dyn am 20 munud olaf y gêm.

Roedd Jonjo Shelvey yn teimlo y dylai'r Elyrch fod wedi cael cic o'r smotyn yn yr hanner cyntaf, ar ôl iddi ymddangos i'w ergyd daro llaw Antolin Alcaraz.

Nid oedd y dyfarnwr yn cytuno, ac yn yr ail hanner cafodd Shelvey ei yrru o'r cae am ail gerdyn melyn.

Roedd angen amddiffyn cryf iawn gan Abertawe wrth i'r gêm symud at ei derfyn, gydag Ashley Williams yn atal cyfle gwych i Romelu Lukaku.

Daeth Lukaku o fewn modfedd o rwydo gyda chic olaf y gêm ond doedd o methu a chysylltu â'r bel ar draws wyneb y gôl.

Mae Abertawe yn parhau yn y chweched safle, pwynt o flaen Lerpwl.