Caerdydd 3-1 Leeds

Manga

Mae Caerdydd yn aros yn yr 11eg safle yn y Bencampwriaeth wedi buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Leeds ddydd Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf ddi-sgor, Bruno Ecuele Manga sgoriodd gyntaf cyn i Federico Macheda ddyblu'r fantais.

Rhoddodd Alex Mowatt obaith i'r ymwelwyr gyda tua 15 munud yn weddill, ond fe wnaeth Kenwyne Jones fanteisio ar amddiffyn gwael Leeds yn y munudau olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Dyma yw trydedd fuddugoliaeth Russell Slade yn ei bedair gêm gyntaf fel rheolwr yr Adar Gleision.