Ymchwilio i farwolaeth dyn o Wrecsam yn Sir Amwythig

Mae'r Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn o Wrecsam yn dilyn digwyddiad mewn parc sglefrio yn Sir Amwythig.

Roedd y dyn 20 oed wedi bod i'r digwyddiad ar Barc Diwydiannol Rednal yng Nghroesoswallt, a chafodd ei gludo i Ysbyty Amwythig. Bu farw yn oriau man bore Sadwrn.

Mae Heddlu Gorllewin Mercia yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Mae'r Heddlu yn apelio am i unrhyw un oedd yn y digwyddiad sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.