Canlyniadau'r Cymry yn y Pro12

Image copyright Huw Evans picture agency

Gleision Caerdydd 24-28 Munster

Daeth cais hwyr gan Paddy Butler i sicrhau buddugoliaeth i Munster yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 18-14 erbyn yr egwyl, a hynny o gicio JJ Hanrahan, er i Lucas Amorosino sgorio ei gais cyntaf i'r Gleision.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi cais Monoa Vosawai a throsiad Gareth Davies.

Daeth Munster yn ôl yn gyfartal wedi cic gosb arall, ond cafodd cefnogwyr y Gleision eu siomi ar ôl i Butler groesi'r linell gyda llai na phum munud yn weddill.

Image copyright Getty Images

Scarlets 28-13 Zebre

Daeth y Scarlets yn ôl i guro Zebre o 28-13 ym Mharc y Scarlets.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 13-12 ar ôl yr hanner cyntaf wedi cais Valerio Bernabo a throsiad Edoardo Padovani.

Ond llwyddodd y Scarlets i reoli'r gêm yn yr ail hanner, a sgoriodd Steffan Hughes gais wedi tua 20 munud.

Daeth 23 o bwyntiau'r Scarlets gan y maswr Steven Shingler.

Image copyright Press Eye

Ulster 23-6 Dreigiau

Sgoriodd Stuart Olding ddau gais wrth i Ulster sicrhau buddugoliaeth flêr o 23-6 yn erbyn y Dreigiau yn y Pro12.

Roedd glaw trwm wedi oedi'r gic gyntaf yn Stadiwm Kingspan, ac fe wnaeth y glaw achosi llawer o gamgymeriadau.

Ciciodd Paddy Jackson ddwy gic o'r smotyn cyn i'r cefnwr Olding dorri drwy'r amddiffyn i sgorio'r cais gyntaf.

Aeth Olding dros y linell yn y cornel am ei ail gais, cyn i Declan Fitzpatrick adio trydydd yn hwyr yn y gêm.

Daeth unig bwyntiau'r Dreigiau gan Angus O'Brien.