Gerry Holtham: angen dechrau diwygio treth cyngor Cymru

Gerry Holtham
Image caption Mae Gerry Holtham yn dweud nad yw'r system bresennol yn deg

Mae angen dechrau ar y gwaith o wneud trethi cyngor yn fwy teg rŵan i sicrhau bod newidiadau yn digwydd ar ôl i awdurdodau lleol uno, meddai cyn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru.

Mae'r economegydd Gerry Holtham yn credu y dylai biliau treth cyngor gael eu seilio ar brisiau tai.

Daw'r alwad ar ôl i'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb awgrymu bod newidiadau i'r system ar y ffordd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod newid o fewn tair i bum mlynedd, ond maen nhw'n dweud y gall datganoli pwerau treth arwain at newidiadau yn y dyfodol.

'Amser newid'

Mae'r Llywodraeth am weld nifer y cynghorau yng Nghymru yn gostwng o 22 i tua 10, a dywedodd yr Athro Holtham na fyddai unrhyw newid i'r system dreth oherwydd yr ail-strwythuro yma.

Ond yn siarad ar raglen Sunday Politics, dywedodd bod angen meddwl am y peth ar unwaith.

Image copyright Getty Images

"Rŵan yw'r amser i fod yn ymgynghori, yn meddwl am y peth, yn penderfynu beth yn union maen nhw angen ei wneud os ydyn nhw'n penderfynu diwygio mewn tair i bum mlynedd," meddai.

Cafodd bandiau treth cyngor eu gosod am y tro diwethaf yng Nghymru yn 2005, ac yn Lloegr yn 1992.

Yn ôl yr Athro Holtham, mae angen i'r dreth gael ei gysylltu â phrisiau tai, i osgoi'r "drama" o orfod ystyried ei newid.

'Trethu cyfoeth'

"Mae'n beth da i drethu cyfoeth. Mae cyfoeth yn eich galluogi i wario yn yr un modd ag incwm. Mae trethu incwm yn digalonni pobl rhag gweithio. Dydi trethu cyfoeth ddim.

"Ar hyn o bryd mae'r dreth yn annheg. Os ydych chi i fyny yn y cymoedd hefo tŷ werth £50,000, byddwch chi'n talu £800 mewn treth cyngor ar hynny.

"Mae hynny dros 1.5% o werth y tŷ bob blwyddyn mewn treth cyngor.

"Os yw eich tŷ werth £500,000, dydych chi ddim am dalu mwy na tua £2,000, £2,500 ar y mwyaf, felly dim ond 0.5% rydych chi'n ei dalu."

Awgrym yr Athro Holtham yw gosod y dreth ar 0.9% o werth y tŷ, gan olygu bod pobl fwy cyfoethog yn talu mwy.

Mae hefyd yn dadlau y byddai'n arbed £20m y flwyddyn mewn budd-dal treth cyngor.

Image copyright PA
Image caption Mae'r Athro Holtham am weld treth cyngor yn cael ei gysylltu â phrisiau tai

System yn deg?

Fis diwethaf, dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, bod angen ystyried newid i'r system treth cyngor, ond na fyddai'n gwneud hynny o fewn y tair i bum mlynedd nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid oes cynlluniau i newid y model o gyllido llywodraeth leol cyn ad-drefnu llywodraeth leol.

"Ond, mae nifer o fecanweithiau all gyllido llywodraeth leol yng Nghymru.

"Yn y gorffennol mae gweinidogion wedi sicrhau bod y system treth cyngor yn gyfoes, fel gwerthuso bandiau ac ychwanegu bandiau.

"Mae Mesur Cymru yn agor posibiliadau newydd ar gyfer cyllido yn y dyfodol, gan alluogi i Lywodraeth Cymru gefnogi twf a sicrhau tegwch ar draws Cymru."