Dyn o Wrecsam wedi marw mewn parc sglefrio

Matthew Jones Image copyright Llun Facebook
Image caption Bu farw Matthew Jones ddydd Sadwrn ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 20 oed

Bu farw dyn 20 oed o Wrecsam yn ystod yr oriau mân fore Sadwrn, yn dilyn digwyddiad mewn parc sglefrio yng Nghroesoswallt.

Roedd Matthew Jones yn gyn chwaraewr i dîm pêl-droed ieuenctid Johnstown, a bu farw ar 1 Tachwedd ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 20 oed.

Roedd wedi bod mewn digwyddiad mewn parc sglefrio ar Ystâd Ddiwydiannol Rednal yn Sir Amwythig a chafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig lle bu farw'n ddiweddarach.

Nid yw union achos ei farwolaeth wedi cael ei gyhoeddi ond mae Heddlu Gorllewin Mersia yn trin yr achos fel un amheus.

Mae unrhyw un a oedd yn bresennol yn y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â'r heddlu ar 101.