Antigua: Carchar am wyrdroi cyfiawnder

Ben a Catherine Mullany
Image caption Roedd Ben a Catherine Mullany ar eu mis mêl pan gawson nhw eu saethu yn Antigua

Mae dynes o Ynys Antigua wnaeth geisio amddiffyn dau a lofruddiodd cwpl o dde Cymru, trwy ddweud celwyddau wrth y llys, wedi cael ei charcharu am chwe blynedd.

Roedd Georgette Aaron wedi ceisio amharu ar ymchwiliad yr heddlu i lofruddiaethau Ben a Catherine Mullany o Bontardawe oedd ar eu mis mel ar yr ynys yn 2008.

Cafodd y cwpl eu saethu gan Avie Howell a Kaniel Martin tra ar eu mis mêl ar yr ynys ym mis Gorffennaf 2008. Bu farw'r ddau yn ddiweddarach.

Fe wnaeth Howell a Martin hefyd lofruddio perchennog siop leol Woneta Anderson.

Roedd Aaron wedi dweud wrth yr heddlu ei bod gyda'i chariad Howell, a'i gyfaill Martin ar yr union adeg pan gafodd Ben a Catherine eu saethu.

Dywedodd y barnwr Ustus Albert Redhead nad oedd ganddo ddewis ond carcharu Aaron a oedd wedi dweud celwydd trwy gydol yr achos.

Bu farw Avie Howell, 24 oed, yn gynharach yn y flwyddyn wedi iddo gael ei saethu gan yr heddlu ar ôl dianc o'r carchar.

Straeon perthnasol