Cyhuddo dyn o lofruddio menyw 78 oed

Anne Jackson Image copyright Gwent Police

Mae dyn 48 o Sheffield wedi ymddangos gerbron ynadon yng Nghasnewydd ar gyhuddiad o lofruddio menyw 78 oed o Sir Fynwy dros y penwythnos.

Mae Timothy Jackson wedi ei gyhuddo o lofruddio Anne Jackson - credir mai hi oedd ei lysfam - yn ardal Llantrisant o Frynbuga ar ddydd Sadwrn, 1 Tachwedd.

Bydd yn ymddangos yn y llys eto fore Mercher am 09:30.

Roedd Mrs Jackson yn fardd oedd yn cyhoeddi ei gwaith dan yr enw Anne Cluysenaar.

Straeon perthnasol