Gatland yn enwi'i dîm i wynebu Awstralia

Rhys Webb Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mewnwr y Gweilch, Rhys Webb, sy'n llenwi'r crys rhif 9

Mae Warren Gatland newydd gyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Un dewis dadleuol efallai yw Rhys Webb fel mewnwr yn lle Mike Phillips.

Oherwydd anafiadau fe fydd George North yn symud i'r canol, gyda Liam Williams yn cymryd ei le ar yr asgell.

Does dim lle i Gethin Jenkins gan mai Paul James a Samson Lee yw'r ddau brop, ac mae Jake Ball wedi cael ei dewis yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl, y triawd llwyddiannus o Warburton, Lydiate a Faletau sydd wedi cael yr alwad.

Wrth gyhoeddi'r tîm dywedodd Warren Gatland:

"Mae anafiadau yng nghanol cae yn golygu y cawn ni weld Jamie a George gyda'i gilydd eto, ac roedden ni'n hapus gyda'r ddau yno yn gynharach eleni.

"Mae partneriaeth Rhys (Webb) a Dan (Biggar) yn yr haneri i'r Gweilch wedi bod yn dda ac fe fydd yn braf gweld y ddau gyda'i gilydd ar y llwyfan yma.

"Mae Paul James a Jake Ball wedi fy mhlesio felly maen nhw'n cael yr alwad.

"Mae'r gemau diweddar yn erbyn Awstralia wedi bod yn dynn iawn ac rydym yn disgwyl yr un peth y penwythnos yma...fe fydd hi'n frwydr anferth ond mae'n her yr ydym yn edrych ymlaen ati."

Cymru v. Awstralia; Stadiwm y Mileniwm, dydd Sadwrn 8 Tachwedd am 14:30:-

Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton Saints), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Heb glwb), Sam Warburton (Capten - cytundeb deuol), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Bradley Davies (London Wasps), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Cory Allen (Gleision).

Dadansoddiad Cennydd Davies, Gohebydd Chwaraeon

Yn ôl y disgwyl felly doedd Jonathan Davies na Scott Williams yn holliach ar gyfer ymweliad y Wallabies i Stadiwm y Mileniwm bnawn Sadwrn.

Na dyw hi ddim yn ddelfrydol nad yw'r naill neu'r llall ar gael ac mae'r tîm hyfforddi'n dal i fynnu mai asgellwr yw ei safle gorau ond bob tro ma'r gwr o Ynys Môn wedi symud i ganol cae dyw e ddim 'di siomi - fydde unrhywbeth yn agos i'w 4 cais o'r safle hwnnw dros Northampton yn fwy na derbyniol!!

Heblaw am hynny mae'n edrych yn debyg bod Warren Gatland wedi gwobrwyo rhai ar sail eu perfformiadau diweddar yn cynnwys Paul James yn lle Gethin Jenkins yn y reng flan a Rhys Webb sy' 'di serennu dros y Gweilch yn y Pro 12 yn hytrach na phrofiad a dawn Mike Phillips i godi gêm ar y lefel uchel.

Ma' enw Dan Lydiate wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar wedi'r newyddion ei fod e'n dychwelyd i Gymru, prin ma'r blaenasgellwr wedi bod ar y cae chwarae eleni ond er gwaetha hynny ma'r tim hyfforddi'n gwbwl hyderus ei fod e'n barod ar gyfer yr her ddydd Sadwrn ac yn cyfuno eto â Faletau a'r capten Sam Warburton.

Yn olaf bydd hi'n dipyn o fedydd tân i'r tîm cenedlaethol ddydd Sadwrn lai na blwyddyn cyn dod ben ben â'r un gwrthwynbewyr yng nghwpan y byd, a son am fedydd tân ma'r cae newydd rhannol broffesiynnol yn barod - dim ond atgof o'r gorffennol fydd yr holl broblemau yn ymwneud â'r tir o hyn ymlaen yn ôl prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis - ma' hynny'n ddweud mawr, ond wedyn ma' £3m wedi'i wario ar y porfa newydd!