Arddangosfa ryfel cymunedau Ceredigion

Yr amlen werdd
Image caption Mae'r amlen werdd, a gariodd llythyr JM Davies adref, yn rhan o'r arddangosfa

Mae arddangosfa newydd wedi agor yn Bow Street ger Aberystwyth i nodi canmlwyddiant ers dechrau'r rhyfel byd cyntaf.

Mae'n cynnwys eitemau sydd wedi'u cyfrannu gan bobl gogledd Ceredigion gan gynnwys lluniau a llythyrau o berthnasau fu'n ymladd yn y rhyfel mawr.

I gydfynd â'r arddangosfa fe fydd drama newydd yn cael ei pherfformio yn seiliedig ar rai o'r straeon sydd wedi dod i'r amlwg wrth gasglu'r eitemau.

Ymhlith yr eitemau, mae cerdyn post gafodd ei roi i William Rhys Jones o Bow Street a fu'n ymladd yn nhrydedd brwydr Ypres ym 1917.

Mae nai William Rhys Jones, Vernon Jones, ym meddiant y cerdyn post heddiw a dywedodd: "Y stori yw, roedd tri o filwyr Almaenig wedi'u hanafu yn go ddrwg ac o'dd fy ewythr wedi dod ar eu traws nhw.

"Ac mae un ohonyn nhw yn tynnu cerdyn post allan o'i boced a llun ei wraig arno fe - ac am fod Wncwl William yn gallu siarad tipyn o Almaeneg fe ofynodd iddo fe a sgrifenna fe at ei wraig i ddweud ei fod e'n iawn.

"Aeth fy ewythr wedyn i moyn pensil i ysgrifennu'r cyfeiriad yn yr Almaen. Ond pan ddaeth e nol roedd y milwr wedi marw, ac felly dyma'r llun o'r wraig oedd i fod i gael y wybodaeth am ei gŵr."

Teimlad anesmwyth

Mae Vernon yn dweud iddo feddwl yn aml am y teulu yn yr Almaen ac yn teimlo'n anesmwyth fod y llun ganddo fe o hyd.

"Bydden i'n hapus iawn petai hwn yn mynd nol i'r Almaen, i rywle, i amgueddfa efallai sy'n delio gyda hanes y rhyfel, ac efallai gallai rhywun ddweud fod 'hwnna'n perthyn i ni' ac efallai cael y stori o'r diwedd".

Image caption Llwyddodd JM Davies i oroesi 'tir neb'

Mae rhan arall o'r arddangosfa yn adrodd hanes JM Davies a ysgrifennodd lythyr Cymraeg adref.

Cafodd y llythyr ei gamddeall gan y sensor a oedd yn meddwl ei fod yn datgelu cyfrinach, a chafodd JM Davies ei gosbi trwy gael ei orfodi i gerdded yn nhir neb.

Goroesodd y profiad a byw i gyfieithu ei lythyr gan ddangos nad oedd wedi datgelu unrhyw gyfrinachau.

Mae rhan o'r 'amlen werdd' a gariodd y llythyr o'r ffosydd yn ôl i Gymru i'w weld yn yr arddangosfa.

Bydd yr eitemau'n ymweld â chymunedau ar draws Gogledd Ceredigion, fel rhan o'r arddangosfa, dros yr wythnosau nesaf.