Y Rhyfel Mawr: Hanes recriwtio milwyr o ogledd Cymru

Rhyfel Byd 1af
Image caption Bu farw tua 40,000 o Gymry yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Dychmygwch gael cynnig swydd sy'n rhoi cyfle i weld y byd heb dalu'r un geiniog - a'ch bod, yn hytrach, yn cael rhywfaint o gyflog a hyfforddiant llawn.

Dyma'r cynnig gafodd miloedd o ddynion ifanc union 100 mlynedd yn ôl - ond doedd yr un ohonyn nhw yn or-awyddus i fachu ar y cyfle.

Nid ar long yn mynd o borthladd i borthladd oedd y swydd. Nac ychwaith ar ynys bellenig yn wyneb yr haul yn casglu ffrwythau.

Roedd y rhan fwyaf yn cyrraedd caeau yn llawn cyrff, a chyfandir na fyddai fyth yr un fath wedi hynny. Uffern ar y ddaear yn llythrennol.

Mi fyddwn i'n gallu bod yn un o'r 8,000 - un o'r 8,000 sydd wedi eu henwi ar Gofeb y Dewrion ym Mangor. Dyma'r rhai na ddaeth adref i ogledd Cymru ar ôl y Rhyfel Mawr.

Petawn i wedi fy ngeni ganrif ynghynt - mae'n bosibilrwydd cryf. Meibion. Tadau. Brodyr a chwiorydd. Cymry.

Image caption Mae Cofeb y Dewrion wedi'i phlethu mewn i ddyluniad canolfan gelfyddydau Pontio ym Mangor

'Araf i ddechrau'

Ddwy flynedd ar ôl i'r Rhyfel ddechrau, fe ddaeth hi'n gyfraith bod yn rhaid i bob dyn ifanc 18 oed a thebol ymuno â'r fyddin.

Meddai Gerwyn James, sy'n hanesydd rhyfel ac wedi cyhoeddi llyfr am y cyfnod:

"Ar y dechra', ara' deg iawn oedd pethau.

"Yn y 18 mis cynta', mae yna gwyno mawr am lefydd fel Sir Fôn, Sir Gaernarfon a'r Canolbarth.

"Er enghraifft, ffeiriau cyflogi lle'r oedd milwyr yn mynd i drio recriwtio - yng Nghaergybi er enghraifft yn 1915, ymgyrch fawr, neb yn dod ymlaen, dim un person yn gwirfoddoli.

"Yr un peth wedyn yn Llanfechell ddiwedd y flwyddyn, neb yn dod ymlaen a channoedd o bobl yn y ffair ynde".

Image caption Mae'r hanesydd Gerwyn James yn dweud bod y broses recriwtio yng ngogledd Cymru yn araf i ddechrau

John Williams Brynsiencyn

Os oes yna un enw sy'n mynd law yn llaw â'r gair 'recriwtio' yn y gogledd, yna John Williams Brynsiencyn ydy hwnnw.

Mae'r Parchedig Harri Parri yn cyhoeddi llyfr nos Iau, 'Gwn glân a Beibl Budur', yn edrych yn ôl ar gyfnod y Dr John Williams yn ystod y Rhyfel Mawr.

"Mae yna sôn am John Williams yn pregethu yn y pafiliwn yng Nghaernarfon, yn dal tua 7,000 mae'n debyg - fel oedd o'n symud, mi oedd y gynulleidfa i gyd yn symud a defnyddio'r ddawn yma wnaeth o i'r pwrpas yma yn anffodus."

"Gath o'i wneud yn gaplan do, ac wedyn oedd o'n gwisgo....iwsho'r wisg filwrol a chadw'r goler gron ac mi oedd hynny'n ffyrnigo pobl yn arbennig de, dwi'n meddwl".

O gofio hynny, a'i fod hefyd mae'n debyg yn areithiwr tanbaid heb ei ail, mae John Williams Brynsiencyn a'i ran yn yr ymgyrch recriwtio yn cael ei gofio hyd heddiw, ond doedd o ddim yr unig un o weision Duw a oedd wrthi, yn ôl Harri Parri:

"Oedd gan bawb ei ddull gwahanol, Henry Jones yr athronydd, ymresymu oedd o, wedyn Owen Thomas, y brigadydd gadfridog Owen Thomas o Lanfechell Sir Fôn, wel i gyfranniad o, oedd o 'di bod yn Rhyfel y Boer, ac roedd Henry Jones ac Owen Thomas yn siarad o'r galon yn diwadd.

"Mi gollodd Owen Thomas dri mab yn y rhyfel, a Henry Jones yn colli un. Ond recriwtio efo'i draed yn sych oedd John Williams de. Ond i fod yn deg, cael ei wrthod wnaeth John Williams, mi wnaeth gais am gael mynd i Ffrainc, ond mi oedd ei oed o yn ei erbyn."

Image caption Mae Harri Parri wedi ysgrifennu llyfr am hanes Dr John Williams yn ystod y Rhyfel Mawr

'Hawdd beirniadu'

Ond dydy rhai ddim yn meddwl ei bod hi'n deg mai John Williams ydi'r enw sy'n cael ei grybwyll amlaf wrth sôn am recriwtio dynion ifanc yn filwyr.

Yn ôl Edwina Jones - un o drigolion Brynsiencyn, a oedd yn byw am gyfnod yn Llwyn Idris, tŷ John Williams - mae'n hawdd beirniadu ar ôl treigl amser:

"Mi oedd fy nhad yn sôn amdano fo fel pregethwr. Chlywodd 'y nhad 'rioed 'mohono fo, dim ond wedi clywed ei dad a'i fam ei hun yn dweud.

"Ond mi oedd ganddo fo barch mawr i'r Dr John Williams. Bob tro y bydda' yna sôn ar yr aelwyd am y doctor John Williams, mi fydda fo bob amser yn troi ac yn dweud "rhaid i ti gofio, dyn ei gyfnod, dyn ei oes a be' fyswn i wedi ei 'neud?" - fel yna fydda' fo'n gofyn bob amser".

100 mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Mawr, efallai bod gynnau wedi tawelu ond mae'r trafodaethau am yr ymgyrch a'r dulliau recriwtio yn parhau.

Cliciwch i ddarllen rhagor am hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC