Cyflogau uchel: 'hawl y cyhoedd i wybod'

Arian Image copyright PA
Image caption Mae'r pwyllgor am i'r nifer sy'n cael mwy na £100,000 gael ei chyhoeddi

Dylai'r cyhoedd gael yr hawl i wybod faint o weithwyr y sector cyhoeddus sy'n derbyn cyflog o fwy na £100,000 y flwyddyn, yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.

Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru osod rheolau i gyrff cyhoeddus ynglŷn â chyhoeddi manylion cyflogau uchel.

Mae'r pwyllgor am i'r nifer sy'n cael mwy na £100,000 gael ei chyhoeddi mewn bandiau o £5,000.

Yn ôl y pwyllgor, dylid cynnwys landlordiaid cymdeithasol sy'n derbyn arian oddi wrth y llywodraeth a'r rheiny sy'n gweithio mewn addysg bellach, addysg uwch, llywodraeth leol a'r Gwasanaeth Iechyd.

'Dadlau gwleidyddol'

Casglodd y pwyllgor fod gwahanol reolau a meini prawf yn cael eu defnyddio gan gyrff cyhoeddus wrth benderfynu pa gyflogau fyddai'n cael eu cyhoeddi.

Mae cyflogau uchel yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi arwain at ddadlau gwleidyddol ers peth amser.

Yr wythnos diwethaf mynnodd Swyddfa Archwilio Cymru fod pecyn diswyddo Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry-Jones, £330,000 yn wreiddiol, yn cael ei leihau o £52,760.

Image caption Roedd cyflog Bryn Parry-Jones bron ddwywaith cyflog prif weithredwr Cyngor Conwy

Dywedodd y pwyllgor fod ei gyflog yn £194,661 yn 2012-13, gryn dipyn yn uwch na chyflog y Prif Weinidog. Ond mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn derbyn cyflog o £200,000.

Yn ôl yr adroddiad, roedd "pryderon dilys" am daliadau diswyddo i'r rheiny sy'n derbyn y cyflogau mwyaf ond y bydden nhw'n edrych ar daliadau diswyddo yn fwy manwl y flwyddyn nesaf.

'Anghysondebau'

Dywedodd Darren Millar AC, cadeirydd y pwyllgor: "Roedd yn anodd weithiau gwneud cymariaethau rhwng trefniadau cyflog sefydliadau tebyg ac roedd anghysondebau ar draws y sector cyhoeddus...

"Roeddem yn pryderu am y canfyddiadau hyn, gan ei fod yn hanfodol, yn ein barn ni, fod yr wybodaeth am lefelau cyflogau uwch-swyddogion yn y sector cyhoeddus yn glir ac yn hygyrch i'r cyhoedd. Bydd hynny'n ei gwneud yn bosib cynnal gwaith craffu effeithiol a chael trafodaeth ddeallus a hyddysg am gyflogau uwchreolwyr.

"Nid yw ein hargymhellion yn gosod unrhyw faich mawr ychwanegol ar sefydliadau - maen nhw'n anelu at gysoni'r drefn o adrodd ar gyflogau uwchreolwyr, sicrhau bod gwybodaeth yn fwy hygyrch i'r cyhoedd a sicrhau mwy o dryloywder o ran penderfyniadau sefydliadau..."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylai'r llywodraeth Cymru ddefnyddio ad-drefnu arfaethedig llywodraeth leol er mwyn cyflwyno mwy o gysondeb i'r cyflogau sy'n cael eu derbyn gan brif weithredwyr cynghorau.

Roedd cyflog Mr Parry-Jones bron ddwywaith cyflog £105,581 prif weithredwr Cyngor Conwy.

Straeon perthnasol