Galw am ymchwilio i diwmorau ymennydd yn y gogledd

Gwynfor John a Deborah
Image caption Bu farw Gwynfor John, a welir gyda'i wraig Deborah, 10 mis ar ôl iddo dderbyn y diagnosis.

Mae grŵp o ffrindiau oedd yn yr ysgol gyda'i gilydd wedi codi pryderon wedi iddyn nhw i gyd dderbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae'r cyn-ddisgyblion o Ysgol Ardudwy, Harlech yn eu 60au ac yn credu bod eu hafiechyd yn fwy na chyd-ddigwyddiad.

Yr un math o diwmor gafodd y ffrindiau - Dewi Jones, Gwynfor John Williams, Ian Rayner a Dafydd Roberts.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod asesiad wedi dod i'r canlyniad nad oedd angen ymchwiliad ar hyn o bryd.

'Sioc'

Mae rhaglen Manylu BBC Radio Cymru wedi clywed sut y gwnaeth y ffrindiau, gafodd eu magu yn nalgylch Ysgol Ardudwy yng Ngwynedd, glywed am ddiagnosis ei gilydd drwy ddamwain.

Un oedd Ian Rayner, 63 oed o Ynys ger Harlech, sy'n disgrifio'r foment pan welodd ei gyfeillion yn yr ysbyty.

"Roedd hi'n anodd adnabod y naill a'r llall i ddechrau oherwydd bod y steroidau yn gwneud i chi edrych yn wahanol," meddai.

"Roedd hi'n sioc, ond roedd hi hefyd yn gysur oherwydd ein bod ni'n mynd drwy'r peth gyda'n gilydd."

Image caption Dewi Jones ac Eleri Jones: Derbyniodd Dewi ei ddiagnosis ym mis Medi 2013.

Ian oedd y cyntaf i dderbyn diagnosis ym mis Medi 2012, cyn i'w ffrind, Gwynfor John Williams o Ynys, gael diagnosis union flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae meddygon wedi cael gwared ar y rhan fwyaf o diwmor Ian, ond bu farw Gwynfor ym mis Mehefin, 10 mis ar ôl iddo dderbyn y diagnosis.

Cafodd ddau arall, Dewi Jones a Dafydd Roberts, ddiagnosis ym mis Medi 2013.

Cwestiynau

Dywedodd Dewi Jones, sy'n wreiddiol o Finffordd, ond bellach yn byw yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle: "Dydw i ddim yn gwybod os ydw i'r person cywir i ddweud pam bod hyn wedi digwydd, ond yn ystod y cyfnod yma cafodd gorsaf bŵer Trawsfynydd ei hadeiladu ac rydyn ni wedi byw drwy Chernobyl hefyd.

"Hoffwn weld ymchwil yn cael ei wneud er mwyn ceisio achub pobl sy'n dioddef heddiw a cheisio atal pobl rhag datblygu tiwmor ar yr ymennydd yn y dyfodol."

Mae Manylu wedi siarad gyda theuluoedd tri arall oedd yn yr ysgol ar yr un pryd sydd hefyd gyda thiwmor ar yr ymennydd, roedd dau gyda'r tiwmor fel canser eilradd ac wedi marw yn y blynyddoedd diwethaf.

Uwch na'r cyfartaledd?

Mae ffigyrau The Brain Tumour Charity ar gyfer 2011 yn dangos bod traean yn fwy ar gyfartaledd - 17 o bob 100,000 o bobl - yn dioddef o diwmor ar yr ymennydd yng Nghymru o'i gymharu â gweddill Prydain - 12 o bob 100,000 o bobl.

Mae astudiaeth rhwng 1984 a 2009 gan Imperial College London wedi dangos bod gan ogledd orllewin Cymru, de ddwyrain Cymru a Chernyw ffigyrau uwch na gweddill Prydain.

Mae Manylu wedi codi eu pryderon gydag arbenigwyr, sy'n gytûn y dylid gwneud ymchwil pellach.

Dywedodd yr Athro Bleddyn Jones o adran oncoleg Prifysgol Rhydychen: "Os oes gennych chi chwech neu fwy o'r un ysgol o fewn cyfnod o 10 mlynedd gyda thiwmor ar yr ymennydd, byddai hynny'n cael ei ystyried yn arwyddocaol.

"Rydw i'n poeni oherwydd eu bod nhw'n dod o'r un ysgol ac rydw i'n credu bod hyn yn fwy na chyd-ddigwyddiad."

Roedd yr Athro Jones yn gweithio yn Ysbyty Clatterbridge rhwng 1989 a 1999, pan roedd yr ysbyty yn trin llawer o gleifion o ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru.

Dywedodd: "Gwelais lawer o ffermwyr o ogledd Cymru gyda thiwmor ar yr ymennydd ac roedd rhai wedi bwyta cig oen o'r fferm pan roedd gormod o ymbelydredd yn y cig i'w werthu oherwydd effaith Chernobyl.

"Mae hi'n gymhleth yng ngogledd Cymru oherwydd ein bod ni'n gwybod bod diffyg amrywiad genetig mewn ardaloedd gwledig yn gallu achosi tiwmorau yn yr ymennydd mewn plant a phobl ifanc.

"Ar gyfer oedolion mae modd ystyried cemegau, fel y rheiny sy'n cael eu defnyddio ar ffermydd, ynghyd â ffactorau amgylcheddol naturiol neu annaturiol.

"Nid oes modd di-ystyru Chernobyl. Mae chwarter y canser sydd wedi datblygu o ganlyniad i Nagasaki a Hiroshima wedi datblygu rhwng 30 a 50 mlynedd ar ôl i'r bomiau ddisgyn."

'Dim patrwm anghyffredin'

Image caption Alison Rayner, Ian Rayner a Deborah Williams: Ian oedd y cyntaf i dderbyn diagnosis ym mis Medi 2012.

Mae'r Tîm Oncoleg sy'n trin y pedwar ffrind ysgol wedi dweud mai arbenigwyr Iechyd cyhoeddus Cymru sydd angen ymchwilio i'r achosion, ond mae'r corff wedi gwrthod cais gan un o'r ffrindiau.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth Manylu: "Mi wnaeth aelod o'r cyhoedd gysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gynharach eleni gyda phryderon am glwstwr posibl o achosion o ganser yr ymennydd yng ngogledd Cymru.

"Rydym wedi cyfarfod â'r unigolyn dan sylw, ac wedi gwneud asesiad cychwynnol yn unol â'n proses arferol ar gyfer ymchwilio clystyrau posibl.

"Roedd ein hasesiad yn dangos nad oedd patrwm anghyffredin o ganser yr ymennydd ac nad oedd angen ymchwiliad pellach ar hyn o bryd."

Mae Manylu yn cael ei ddarlledu am 12.30, ddydd Iau Tachwedd 6.