Pryder trigolion Cwmgwili am gynllun adennill ynni

Canolfan pyrolysis
Image caption Mae Clean Power Properties yn gwadu mai llosgydd fyddai'n cael ei adeiladu ar y safle yng Nghwmgwili

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Iau oherwydd pryderon am gynllun i adeiladu canolfan adennill ynni o wastraff yng Nghwmgwili, Sir Gaerfyrddin.

Mae'r cyfarfod yn Rhydaman wedi ei drefnu gan grŵp sy'n gwrthwynebu cynlluniau Clean Power Properties i ddatblygu uned pyrolysis mewn canolfan ger yr A48, rhwng Caerfyrddin a Cross Hands.

Byddai'r ganolfan yn cael gwared â gwastraff drwy broses pyrolysis - sef defnyddio gwres uchel heb ocsigen i drin y sbwriel.

Mae Clean Power Properties yn gwadu mai llosgydd fyddai'n cael ei adeiladu.

Ond dywed gwrthwynebwyr eu bod yn poeni am effaith yr uned ar yr amgylchedd ac maen nhw'n cyhuddo'r cwmni o beidio â rhyddhau digon o wybodaeth.

Trafnidiaeth

Mae'r safle yn ffinio etholaethau Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Mae nifer o bryderon, ac mae pobl sy'n byw yn agos yn sôn am broblemau trafnidiaeth gyda lorïau yn teithio i'r safle, ac maen nhw'n poeni am yr effaith ar yr amgylchedd.

"Mae'r bobl sy'n byw yn ymyl yn ceisio cael atebion ac rydym ni fel aelodau etholedig yn ceisio cael atebion ar eu rhan.

"Fel aelodau etholedig nid ydym wedi dod i farn neu benderfyniad, ond rydym am gael atebion i gwestiynau penodol."

"Dyw'r cwmni heb roi atebion i'r cwestiynau sydd wedi eu gofyn."

Dywedodd fod y cwmni wedi dweud eu bod am gydweithio gyda'r gymuned leol ond eto eu bod wedi gwrthod mynychu'r cyfarfod nos Iau.

Cludo gwastraff

Bydd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Nia Griffiths, AS Llanelli hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.

Yn ogystal ag uned pyrolysis, mae'r cwmni am sefydlu parc solar a threilydd anaerobig.

Maen nhw dweud eu bod yn bwriadu cludo gwastraff o radiws o 45 munud o'r safle.

Cafodd cais cynllunio ei gyflwyno i Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Fel rhan o'r broses cynllunio bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus fydd yn dod i ben ar 1 Rhagfyr.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth BBC Cymru Fyw nad oes unrhyw ganolfannau pyrolysis yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd, er bod trwydded wedi ei roi i safle yn ardal Clydach, Cwm Tawe.

Cafwyd cadarnhad gan gwmni Clean Power na fyddan nhw'n bresennol yng nghyfarfod Nos Iau.

Gwnaed cais am ymateb gan Clean Power.

Ym mis Mehefin dywedodd y cwmni eu bod am gael "datblygiad modern a glan sy'n creu ynni ac yn gwahanu deunydd all ei ailgylchu i'w ddefnyddio yn lleol."

Dywed hefyd ei bod yn eglur o'r cynlluniau "nad llosgydd yw'r cynllun yma."

Straeon perthnasol