llawdriniaeth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Llawdriniaeth newydd i gleifion canser

6 Tachwedd 2014 Diweddarwyd 16:12 GMT

Mae uned llawdriniaeth robotaidd newydd ar gyfer cleifion canser y prostad wedi dechrau ar ei waith yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Y peiriant £3.5 miliwn, sy'n defnyddio nifer o fan doriadau llawfeddygol er mwyn cael gwared ar y canser, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Er bod y math hwn o dechnoleg ar gael mewn rhai ysbytai yn Lloegr, robot yr Ysbyty Athrofaol yw'r model diweddara - ac mae'n un o ddim ond chwech yn y byd.

Dyma adroddiad Steffan Messenger.