Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Dawnswyr
Image caption Nid oedd profiad Arthur Tomos o ddawnsio'r fflamenco yn un hapus.

Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun yn y Cymro, nid Arthur Tomos yw dawnsiwr gorau'r byd.

Y tro diwethaf iddo ddawnsio'n gyhoeddus oedd ar wyliau yn Sbaen rai blynyddoedd yn ôl pan gafodd ei berswadio - ar ôl sawl gwydred o win coch - i ddynwared symudiadau gosgeiddig a nwyfus dawnswyr fflamenco, cyn cael cam gwag a syrthio oddi ar y llwyfan.

Felly chafodd ddim ei demtio i ddawnsio'r wythnos ddiwethaf wrth ddathlu pen-blwydd ei ferch gyda cherddoriaeth Sbaeneg mewn tŷ bwyta Eidalaidd yn Llundain.

Mae wrth ei fodd yn mwynhau'r gwahanol ddiwylliannau sydd ar bob cornel o'r ddinas honno, ond er bod ei ferch yn byw'n agos at Glwb y Cymry, ychydig o gyfle mae'n ei gael i fynd yno i'r nosweithiau cymdeithasol Cymreig.

Canolfan Cymry Llundain

Image caption Mae dros 300,000 o Gymry yn byw yn Llundain.

Efallai bod hynny ar fin newid, wrth i Non Vaughan-O'Hagan, sydd newydd ddechrau fel pennaeth newydd Canolfan Cymry Llundain rannu ei gweledigaeth am y dyfodol gyda gwefan Cymru Fyw.

Mae'n ymhyfrydu ym mharadocs ei gwaith newydd - brodor o Aberystwyth yng nghanol Llundain yn canfod ei hun mewn swydd lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Mae dros 300,000 o Gymry yn byw yn y ddinas meddai, ac mae gan y Ganolfan gyfrifoldeb i'w cefnogi nhw yn eu hymdrech i gadw eu Cymreictod ac i ddathlu eu diwylliant.

Mae am gymryd y cyfle gwerthfawr yma i drawsnewid y Ganolfan i fod yn Llysgenhadaeth Ddiwylliannol.

Pa well amser i ddatgan yn hyderus ein diwylliant a'n hiaith i'r gymuned eang?

Noson Tân Gwyllt

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd pobl dda Lewes, yn Sussex, hwyl yn llosgi delw o Alex Salmond ar ben y goelcerth.

Go brin fod Glyn Adda yn rhannu ei hyder.

Roedd hi'n noson tân gwyllt nos Fercher, ac ar ei flog mae'n sôn am yr hwyl a gafodd pobl dda Lewes yn Sussex, yn llosgi delw o Alex Salmond ar ben y goelcerth, er difyrrwch i dyrfa o 45,000.

Y cwestiwn gan Glyn i Gymru yw, pryd, o pryd y codwn ni arweinydd y barna pobl yr Home Counties ei fod yn deilwng o'i losgi ar Noson Tân Gwyllt?

Hyd y gall yntau gofio, ni losgwyd arweinydd o Gymro ers diwrnod llosgi Lloyd George a'i ewythr gan bobl Cricieth adeg Rhyfel y Boer.

Roy Keane a Kevin Pietersen

Image copyright BBC Sport
Image caption Derec Llwyd Morgan yn trafod hunangofiannau Roy Keane a Kevin Pietersen.

Does fawr gan Derec Llwyd Morgan i'w ddweud wrth o leiaf ddau sydd wedi'u hystyried yn arwyr yn eu tro ar y caeau chwaraeon.

Yn Barn, mae'n trafod hunangofiannau dau o'r chwaraewyr mwyaf hunanganolog a welodd ein hoes ni, Roy Keane a Kevin Pietersen, dau estronddyn atgas braidd a wnaeth bob o ffortiwn yn Lloegr.

Mae ail gyfrol Keane, a'i rantio a gweld-bai-ar-bawb-arall yn debyg iawn i'w gyfrol gyntaf o hunangofiant, tra bo Pietersen yn cwyno am hwn yn ei fychanu ac am arall yn ei watwar, gan gymryd arno'i fod yn ddi-rym ac yn ddiniwed yn gymwys fel pe na bai ganddo, y dyn dwylath a phedair modfedd ag ydyw, dafod yn ei ben i dalu'r pwyth yn ôl na deuddwrn i roi clatshen neu ddwy i'w elynion yn yr ystafell newid.

'Hen Lyfr Bach'

O leiaf mae Lyn Ebenezer wedi'i blesio gan y gyfrol mae wedi'i darllen yr wythnos hon - trysor o lyfr meddai, y cyntaf mewn cyfres newydd 'Hen Lyfr Bach'.

Gwaith John Evans, y Bardd Cocos, sydd ynddo, un a fu'n arwr i Lyn ers iddo glywed prifathro Ysgol y Bont yn adrodd y llinellau enwog hynny am y Pedwar Llew Tew.

Do, medd Lyn, fe gafwyd beirdd mwy. Ond yn wahanol i'r rhelyw o'r rheini, mae enw John Evans yn dal yn fyw.

Tybed am faint fydd pobl yn cofio Keane a Pietersen…