George North a Dot Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Her yr Hydref: Ydy tîm rygbi Cymru'n barod?

7 Tachwedd 2014 Diweddarwyd 16:09 GMT

Cwrso George North, pechu Paul James a dal i fyny gyda Jamie Roberts. Dot Davies sydd wedi bod yn gweld sut mae'r hwyliau yn ngwesty tîm rygbi Cymru o flaen Her yr Hydref.

Bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica dros y pedair wythnos nesaf ac fe fydd pob un o'r gemau i'w gweld yn fyw ar Clwb Rygbi.

Yn ymuno gyda thîm Clwb Rygbi ddydd Sadwrn, mae Ken Owens, Dwayne Peel, Deiniol Jones a Dafydd Jones gyda'r rhaglen yn dechrau am 1400 ar S4C.