Sam Warburton
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymru v Awstralia: Mae'r llwyfan yn barod...

7 Tachwedd 2014 Diweddarwyd 12:08 GMT

Mae'r llwyfan yn barod unwaith eto ar gyfer Cyfres yr Hydref. Wedi colli 24 o'r 25 gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia, De Affrica a Seland Newydd, mae angen buddugoliaeth ar dîm Warren Gatland yn erbyn o leiaf un o'r tri mawr eleni, yn enwedig gyda Chwpan y Byd rownd y gornel.

Mae hi'n argoeli i fod yn dipyn o sioe - a gyda help y grŵp Sŵnami - mae criw Clwb Rygbi yn barod ar gyfer Her yr Hydref.

Ymunwch â Gareth Roberts, Gwyn Jones a Dwayne Peel ar gyfer Clwb Rygbi Rhyngwladol: Cymru v Awstralia, dydd Sadwrn am 14:00 ar S4C.