Merthyr i ddiswyddo ac ailgyflogi gweithwyr?

Arian
Image caption Mae arweinydd Cyngor Merthyr Tudful wedi dweud bod y cyngor yn wynebu diffyg ariannol o £3 miliwn.

Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi anfon hysbysiadau i nifer o'u gweithwyr gyda'r bwriad o'u diswyddo cyn eu hail-gyflogi ar dâl îs.

Ar 15 Hydref daeth i'r amlwg bod Cyngor Merthyr Tudful yn ystyried diswyddo gweithwyr o dan gynllun tebyg er mwyn arbed arian.

Ond penderfynnodd y cyngor i dynnu'r awgrym hwnnw, ynghyd â'r awgrym i dorri cyflogau gweithwyr o 3%, yn ôl am y tro, tra bod adroddiad newydd yn cael ei lunio.

1,254 o weithwyr

Roedd yr adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer 15 Hydref yn argymell y dylai'r awdurdod geisio dod i gytundeb gyda'r undebau ynglŷn â thoriadau cyflog o hyd at 3%.

Byddai'r undebau yna yn galw ar eu haelodau i bleidleisio yn dilyn ymgynghoriad ar y cynnig gwreiddiol, ond os doedd dim cytundeb erbyn 21 Rhagfyr, roedd cynnig i roi pŵer i Brif Weithredwr y Cyngor i anfon hysbysiadau diswyddo.

Byddai cyfanswm o 1,254 o weithwyr yn cael eu heffeithio, ond nid oedd y cynlluniau'n cynnwys athrawon na staff cefnogol mewn ysgolion.

Anghydfod

Yn dilyn penderfyniad y cyngor i anfon yr hysbysiadau at eu gweithwyr ddydd Iau, mae undebau UNSAIN a'r GMB wedi datgan eu bod mewn anghydfod gyda'r cyngor.

Amserlen y drefn newydd yw y bydd undebau'n cynnal pleidlais ar y cynnig rhwng 22 Rhagfyr ac 19 Ionawr, ond os na fydd cytundeb erbyn hynny byddai staff yn dechrau cael eu diswyddo, gyda'r broses yn dod i ben ar 13 Ebrill.

Mae'r undebau wedi ysgrifennu llythyr at arweinydd y cyngor, Brendan Toomey, gan honni y bydd y cynllun yn golygu bod Merthyr Tudful yn gadael cytundeb cenedlaethol ar y cyd rhwng y cynghorau.

Yn y llythyr mae'r undebau'n dweud eu bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad ac nad ydyn nhw'n deall sut gall y cyngor gychwyn cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod pan nad oes unrhyw wybodaeth am fanylion y newidiadau arfaethedig i'r telerau wedi ei roi i gynghorwyr na'r undebau llafur.

Maen nhw wedi gofyn i'r mater gael ei gyfeirio at Gyd-Bwyllgor Cenedlaethol Cymru.

Diffyg o £3 miliwn

Dywedodd yr undebau eu bod yn "siomedig bod Cyngor Llafur yn credu ei bod hi'n dderbyniol awgrymu diswyddo gweithwyr a'u hailgyflogi ar dâl îs a thelerau gwaeth, ac rydym ni'n mynnu eu bod nhw'n darganfod dewis arall.

"Byddai cynllun i uno'n gynnar gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, yn ein tyb ni, yn cael effaith gadarnhaol ar broblemau ariannol posibl y Cyngor, a dylid ystyried hynny fel blaenoriaeth."

Dywedodd Mr Toomey nad oedd gan y cyngor "ddewis o gwbl" heblaw am gychwyn y broses hon.

Ond ychwanegodd: "Rhaid pwysleisio nad ydi anfon yr hysbysiadau yn fygythiad, ond yn rhan o'r broses a fydd, yn y pendraw, yn achub swyddi, os yw ymgynghori gyda'r undebau yn methu."

Dywedodd bod Merthyr yn gorfod "gwneud penderfyniadau anodd iawn", fel pob cyngor arall yng Nghymru. Dywedodd bod angen ymgynghori gyda'r undebau er mwyn dod i gytundeb ar dorri niferoedd y gweithwyr, ynghyd â newidiadau i delerau ac "unrhyw ddewisiadau eraill."

Mae'r arweinydd wedi dweud bod y cyngor yn wynebu diffyg ariannol o £3 miliwn, gyda "diffyg cynyddol posibl" o £13 miliwn ar gyfer 2015/16- 2017/18.

Mae'r arian mae'r cyngor yn derbyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei dorri 2.6% y flwyddyn nesaf.

'Cydweithio'n effeithiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae penderfyniadau ynglŷn â staffio i'w gwneud gan yr awdurdodau lleol eu hunain.

"Nid yw gostyngiad yn yr arian sy'n cael ei dderbyn o reidrwydd yn golygu cael gwared ar wasanaethau neu ymddiswyddo gweithwyr."

Aeth y llefarydd ymlaen i ddweud "wrth reoli unrhyw ostyngiad mae hi'n bwysig bod awdurdodau lleol yn cydweithio'n effeithiol gyda'r gweithlu, undebau llafur a'r cyhoedd gyda'r nod o sicrhau bod trigolion yn parhau i dderbyn gwasanaethau lleol ble bynnag bo hynny'n bosibl".

Straeon perthnasol