Cofio chwaraewyr rygbi y Rhyfel Mawr

Richard Garnons Williams
Image caption Richard Garnons Williams

Wrth i dîm rygbi Cymru herio Awstralia fory, fe fydd 'na seremoni cyn y gic gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm i gofio'r chwaraewyr rhyngwladol gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ystod y brwydro, bu farw 13 o ddynion oedd wedi cynrychioli Cymru ar y cae rygbi.

Yn ôl yr hanesydd Gareth Williams, roedd y 13 yn cynrychioli pob haen o gymdeithas, gan adlewyrchu Cymru o ran dosbarthiadau cymdeithasol ac yn dod o wahanol rannau o Gymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gohebydd BBC Cymru Alun Thomas yn holi'r hanesydd Gareth Williams.

Richard Garnons Williams, un cap, 1881

Cafodd ei eni yn 1856 yn Llowes, Sir Faesyfed. Bu farw ym mrwydr Loos, ar 27 Medi 1915 yn 59 oed.

Image caption Charles Taylor

Charles Taylor, naw cap, 1884-1887

Cafodd ei eni yn 1863 yn Rhiwabon, Wrecsam.

Yn gwasanaethu gyda'r Llynges, bu farw ar HMS Tiger ym mrwydr Dogger Bank yn 1915. Roedd yn 51 oed a'r chwaraewr rhyngwladol cyntaf o Gymru i farw yn y Rhyfel Mawr.

Image caption Lou Phillips

Lou Phillips, pedwar cap, 1900-1901

Cafodd ei eni yng Nghasnewydd yn 1878, ac roedd yn aelod o dîm Cymru wnaeth ennill y Goron Driphlyg.

Yn aelod o'r Ffiwsilwyr Brenhinol bu farw ym mrwydr Cambrin ym Mawrth 1916, yn 38 oed.

Image caption Dick Thomas (cylch chwith) a Johnny Williams yn 1908 cyn y gêm yn erbyn Iwerddon.

Dick Thomas, pedwar cap, 1906-1909

Cafodd ei eni yn 1883 yn y Rhondda.

Yn aelod o'r Gatrawd Gymreig bu farw yng nghoedwig Mametz yn ystod brwydr y Somme ar 7 Gorffennaf 1916, yn 35 oed.

Image caption Dai Westacott a Charles Pritchard

Dai Westacott, un cap, 1906 a Charlie Pritchard, 14 cap, 1904-1910.

Cafodd Westacott ei eni yn 1882 yng Nghaerdydd gan ennill un cap i Gymru yn erbyn Iwerddon.

Roedd yn aelod o Gatrawd Gloucestershire a bu farw ym mrwydr Ypres yn 1917.

Cafodd Pritchard ei eni yn 1882 yng Nghasnewydd, ac roedd yn aelod o dîm Cymru wnaeth guro'r Crysau Duon yn 1905.

Bu farw ar y Ffrynt Orllewinol yn 1916.

Image caption Phil Waller (chwith) a Johnny Williams

Phil Waller, chwe chap, 1908-1910, a Johnny Williams, 17 cap, 1906-1911.

Cafodd Waller ei eni yn 1889 yng Nghaerfaddon, ond symudodd i fyw i Gymru yn fachgen.

Ar ôl symud i fyw i Dde Affrica ymunodd â'r fyddin yno. Bu farw mewn brwydr yn Bapaume yn 1917.

Cafodd Williams ei eni yn 1882 yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Enillodd y Gamp Lawn dair gwaith.

Bu farw o'i anafiadau pum niwrnod ar ôl cael ei anafu ym mrwydr Coedwig Mametz yn y Somme yn 1916 yn aelod o'r Gatrawd Gymreig.

Image caption Fred Perrett (chwith), Billy Geen a Bryn Lewis (dde), chwaraeodd y tri yn nhîm Cymru cyn y rhyfel

Fred Perrett, pum cap, 1912-1913; Billy Geen, tri chap, 1912-1913; a Bryn Lewis, dau gap, 1912-1913

Cafodd yr asgellwr Geen, ei eni yn 1891 yng Nghasnewydd.

Yn is-gapten gyda'r King's Royal Rifle Corps bu farw yn Hooge, Fflandrys yn 1915, yn 24 oed.

Cafodd Perrett ei eni yn 1891 yn Llansawel ac roedd yn weithiwr dur.

Roedd yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig a'r Ffiwsilwyr Cymreig. Bu farw o'i anafiadau ychydig wythnosau ar ôl diwedd y rhyfel.

Cafodd Lewis ei eni yn 1891 ym Mhontardawe.

Roedd yn uwch-gapten yn y Royal Field Artillery. Bu farw ym mrwydr Ypres yn 1917, yn 26 oed.

Image caption Horace Thomas (rhes gefn, dde) gyda Billy Geen a Fred Perrett yn erbyn De Affrica yn in 1912.

Horace Thomas, dau gap, 1912-1913

Cafodd y maswr Thomas, ei eni yn 1890 ym Mhentyrch a chwaraeodd rygbi dros Abertawe a Blackheath.

Roedd yn is-lifftenant yn y Rifle Brigade a bu farw ar yr afon Ancre yn ystod brwydr y Somme yn 1916, roedd yn 26 oed.

Image caption David Watts yn y tîm i wynebu Lloegr - saith mis cyn cyhoeddi'r rhyfel.

David "Dai" Watts, pedwar cap, 1914

Cafodd ei eni yn 1886 ym Maesteg.

Ymunodd â'r King's Shropshire Light Infantry, a chafodd y corporal ei ladd yn Bazentin Ridge yn Ffrainc yn 1916, yn 30 oed.

Gwybodaeth ychwanegol: Melanie Lindsell a'r hanesydd rygbi, Gwyn Prescott

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.