Brwydr Hollie'n dod i ben

Hollie
Image caption Roedd angen trawsblaniad mêr yr esgyrn ar Hollie Clark oherwydd iddi ddiddef cyflwr prin

Mae merch 8 oed, wedi marw o gyflwr prin sy'n effeithio ar fêr yr esgyrn.

Cafodd Hollie Clark o Gaerdydd wybod fod ganddi gyflwr prin ym mêr ei hesgyrn ym mis Ebrill ac mae ei rhieni wedi bod yn chwilio am roddwr mêr ar gyfer trawsblannu ers hynny.

Yn sgil ei diagnosis, fe sefydlodd ei rhieni apêl 'Help Hollie'

Arwyddodd 322 o bobl y gofrestr ym mis Mehefin eleni, mewn cymhariaeth a 12 yn 2013, a hynny yn sgil yr apêl.

Dywedodd tad Hollie, Stephen Clark: "Mae Hollie wedi marw'n heddychlon ym mreichiau ei rhieni wedi saith mis o frwydro cyflwr prin ym mêr ei hesgyrn.

"Mae'n dorcalonnus. Mae miliynau o atgofion da gyda ni ac rydym yn cymryd cysur yn y nifer o bobl gofrestrodd ar y rhestr trawsblannu.

"Dwi'n sicr bydd rhywun arno'n derbyn galwad ffôn er mwyn cyfrannu bôn-gelloedd a rhoi cyfle i rywun fel Hollie."

Roedd yr ymgyrch yn gofyn i bobl dynnu lluniau gyda thrôns am eu pennau, a bu'n boblogaidd ymysg enwogion. Rhannodd y cyflwynydd Gethin Jones a'r chwaraewr rygbi Sam Warburton luniau o'u hunain ar wefannau cymdeithasol.

Straeon perthnasol