Joshua Ferris yn ennill Gwobr Dylan Thomas

Joshua Ferris Image copyright Swansea University
Image caption Joshua Ferris yw'r ail Americanwr yn olynol i ennill y wobr.

Mae Joshua Ferris, awdur o'r Unol Daleithiau, wedi ennill Gwobr Dylan Thomas 2014.

Gwnaed y cyhoeddiad mai nofel Mr Ferris, To Rise Again At A Decent Hour, oedd wedi ennill y wobr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe nos Iau.

Roedd saith o awduron ar y rhestr fer - Eleanor Catton, Owen Sheers, Eimear McBride, Kseniya Melnik, Kei Miller, Naomi Wood, a Joshua Ferris.

Dywedodd Peter Stead, sylfaenydd a llywydd y wobr, ei bod hi'n "nofel sy'n dangos y rhwystredigaeth, egni a hiwmor sy'n creu Efrog Newydd."

Mae Mr Ferris, sy'n byw yn Efrog Newydd, wedi ysgrifennu dwy nofel arall - Then We Came to the End a The Unnamed.

Mae'r gystadleuaeth, ddechreuodd yn 2006, yn agored i awduron 39 oed neu iau sydd wedi cyhoeddi gwaith yn y Saesneg.

Mae Joshua Ferris yn derbyn gwobr o £30,000 a chast efydd o Dylan Thomas.

Straeon perthnasol