Pryderon am benodiad Ruth Marks

Person oedrannus
Image caption Ruth Marks, cyn-Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, oedd cyfarwyddwr gwasanaethau pobl hŷn Reach, y cwmni oedd yn destun adroddiad damniol ynglŷn â gwasanaethau gofal yn y cartref ym Mhowys

Mae pryderon wedi eu codi am ba mor addas yw'r person sydd wedi'i phenodi i arwain yr adolygiad o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae BBC Cymru ar ddeall mai Ruth Marks, cyn-Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, oedd cyfarwyddwr gwasanaethau pobl hŷn Reach, y cwmni oedd yn destun adroddiad damniol ynglŷn â gwasanaethau gofal yn y cartref ym Mhowys.

Ers hynny mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd, Darren Millar, ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams wedi codi pryderon ynglŷn â'i phenodiad.

Dywedodd Ruth Marks nad oedd hi'n gyfrifol am sefydlu na rhedeg gwasanaethau Reach ym Mhowys.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod Ruth Marks mewn sefyllfa ddelfrydol i ymgymryd â'r adolygiad.

Esgeuluso a niweidio

Daeth Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i'r casgliad bod Reach, sydd bellach ddim yn darparu gwasanaethau ym Mhowys, wedi torri 14 o reolau gofal.

Yn ôl yr adroddiad, cafodd ei chyhoeddi fis diwethaf, roedd dau o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty, ac roedd pobl oedrannus, bregus, eraill wedi eu hesgeuluso a'u niweidio o ganlyniad i ofal gwael gan Reach.

Yn ogystal dywedodd bod nifer o bobl wedi eu rhoi mewn perygl oherwydd gwallau wrth roi meddyginiaeth ac nad oedd y gwasanaeth yn gyson nac yn ddibynadwy.

Fe ymddiheurodd Bethan Evans, cyfarwyddwr corfforaethol Reach, pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi.

Person priodol?

Ruth Marks oedd cyfarwyddwr gwasanaethau pobl hŷn Reach pan ddigwyddodd y problemau.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd, Darren Millar, yn poeni am ei phenodiad: "Rydw i'n meddwl y dylai Ruth Marks ystyried a ydi hi'n teimlo ei bod yn gallu parhau gyda'r ymrwymiad mae'i wedi'i roi i Lywodraeth Cymru.

"Mae hi'n hynod bod un o'r bobl oedd yn gyfrifol am fethiant yng ngwasanaethau cymdeithasol ym Mhowys wedi'i phenodi gan Lywodraeth Cymru i ymgymryd ag adolygiad o drefniadau arolygu iechyd ar draws Cymru.

"Yn dilyn cyhoeddi'r wybodaeth yma am y rhan chwaraeodd Ruth Marks yn y mater, rydw i'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ai hi yw'r person priodol i ymgymryd â'r adolygiad."

Image caption Dywedodd Kirsty Williams nad oedd hi'n credu y dylai rhywun arall gael ei benodi i'r rôl

Eglurhad

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod angen i Lywodraeth Cymru dawelu meddyliau pobl am y penodiad: "Mae'r ffaith bod rhywun oedd mewn safle gweithredol mewn sefydliad sydd wedi'i gondemnio gan yr arolygiaeth, bellach wedi'i phenodi i gynghori Llywodraeth Cymru ar yr arolygiaeth yn peri pryder.

"Rydw i'n meddwl bod angen iddyn nhw egluro pam, er gwaethaf methiannau Reach, maen nhw'n credu mai Ruth Marks yw'r person gorau i ymgymryd â'r adolygiad."

Ond dywedodd Kirsty Williams nad oedd hi'n credu y dylai rhywun arall gael ei benodi i'r rôl.

Dywedodd bod Cyngor Powys hefyd yn gyfrifol am fethiannau Reach.

Sefyllfa ddelfrydol

Dywedodd Ruth Marks: "Cefais fy newis i arwain yr adolygiad oherwydd fy mod i dros nifer o flynyddoedd wedi cyfrannu i ddatblygiad polisiau cyhoeddus a rhaglenni gwaith fyddai o fudd i bobl sy'n wynebu anfantais.

"O ran y gwasanaethau cafodd eu darparu gan Reach ym Mhowys rydw i eisiau ei gwneud hi'n gwbl glir nad oeddwn i'n gyfrifol am sefydlu na rhedeg y gwasanaethau.

"Ni chefais fy nghyfweld gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru oherwydd nad oedd gen i gyfrifoldebau o ran rheoli neu weithredu.

"Bydd fy adolygiad o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn yr un dull annibynnol roeddwn i'n ei ddefnyddio fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd penodiad Ruth Marks ei groesawu ar draws y sbectrwm gwleidyddol pan gafodd hynny ei gyhoeddi.

"Mae ei gwaith fel Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf Cymru yn ei rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i ymgymryd â'r adolygiad.

"Roedd ei rôl gyda Reach yn golygu nad oedd ganddi ran uniongyrchol yn y materion cafodd eu hamlygu yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru."

Straeon perthnasol