Arolwg: Y Gymraeg mor bwysig â'r Saesneg

disgyblion

Mae mwyafrif pobl Cymru yn credu y dylai pob disgybl adael yr ysgol yn medru cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, yn ôl canlyniadau arolwg newydd.

Roedd 56% o'r rhai a holwyd gan y corff polau piniwn YouGov yn cytuno â'r syniad y dylai ysgolion yng Nghymru, boed rheiny'n gyfrwng Saesneg neu Gymraeg, anelu at sicrhau bod eu holl ddisgyblion yn dod yn gyfathrebwyr effeithiol yn y ddwy iaith.

Mynnu bod y canlyniadau'n "her" i Lywodraeth Cymru i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu mae Cymdeithas yr Iaith, wnaeth gomisiynu'r arolwg.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae canfyddiadau'r arolwg yn "galonogol".

Roedd 33% o'r rhai a holwyd yn anghytuno â'r syniad, a 11% ddim yn gwybod.

Fe ddywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Ddylai ein trefn addysg ddim amddifadu'r un plentyn o'r hawl i allu cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg.

"Ar hyn o bryd, mae'r system yn methu ac yn creu dinasyddion eilradd, nad ydyn nhw'n cael yr un cyfleoedd gwaith a diwylliannol ag eraill, a hynny oherwydd hap a damwain daearyddol, eu sefyllfa ariannol, neu ddewis eu rhieni."

'Anymarferol'

Ond yn ôl Amanda Griffiths, pennaeth y Gymraeg yn Ysgol Lewis i Ferched, ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn Ystrad Mynach, fe fydde sicrhau bod pob disgybl yn gallu siarad y ddwy iaith i safon uchel yn anymarferol ar hyn o bryd:

"Fe fydde angen mwy o athrawon, mwy o lyfrau ac adnoddau, a mwy o gefnogaeth, mwy o fuddsoddiad hefyd.

"Ond fe fydde fe'n hyfryd ac yn helpu'r wlad i gyd yn y pendraw, yn helpu busnesau lleol ac yn cynnig cyfleoedd gyrfa i'r plant."

Daw canlyniadau'r arolwg wrth i'r Athro Graham Donaldson o Brifysgol Glasgow baratoi i gyhoeddi ei adolygiad o'r cwricwlwm yng Nghymru.

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai'r adolygiad yn cynnwys ystyried ffyrdd o wella'r ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith.

'Unfed awr ar ddeg'

Ym mis Medi 2013, daeth adolygiad annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd, i'r casgliad fod 'na wendidau yn y system bresennol a'i bod hi'n "unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith".

Wrth ymateb i arolwg YouGov, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae'n galonogol i weld canran mor uchel yn cefnogi dwyieithrwydd.

"Mae ein strategaeth addysg cyfrwng-Cymraeg uchelgeisiol yn dangos ein gweledigaeth glir o system addysg a hyfforddi sy'n ymateb i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynyddu'r nifer o ddysgwyr sy'n dod yn rhugl, fel eu bod nhw'n medru defnyddio'r iaith yn eu cymunedau, gyda'u teuluoedd ac yn y gweithle."