Byw gyda Chanser

Cansyr Image copyright Science Photo Library
Image caption Celloedd Canser

Mae Nia Medi yn cyflwyno Atebion, cyfres o raglenni ar BBC Radio Cymru sy'n trafod y pynciau sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru.

Yn ei blog wythnosol i BBC Cymru Fyw mae Nia yn trafod pwnc sy'n achosi pryder a loes i nifer o deulueodd a hyd a lled Cymru - cansyr:

Un ymhob tri

Gyda mwy nag un mewn tri o bobl yn debygol o ddatblygu ryw fath o ganser yn ystod eu bywyd aumae'n ffaith bod yn rhaid i ni ddechrau siarad yn agored am y peth. A gyda ffigwr mor ddychrynllyd o uchel a hynny, mae'n syndod felly bod y pwnc a'r gair ei hun yn parhau i fod yn dabŵ.

Siaradwch gydag unrhyw un o unrhyw oed sydd a'r clefyd neu wedi cael canser, mae'n debygol mai'r ymateb gewch i yw bod nhw'n teimlo bod pobl ddim am drafod yr hyn sydd wedi digwydd a bod yn well anwybyddu'r peth na'i drafod yn agored.

Image copyright Science Photo Library
Image caption Mae triniaethau canser wedi gwella dros yr ugain mlynedd diwethaf

Pam? Efallai am ein bod yn parhau i gysylltu'r gair mawr dychrynllyd yma gyda marwolaeth ac ein bod, wrth glywed ffrind neu rywun sy'n dweud ei bod nhw wedi cael diagnosis yn unionsyth yn meddwl 'Mae wedi bennu arnoch chi!'

Datblygiadau meddygol

Ond ma'r oes wedi newid. Gyda mwy o ymchwil, meddyginiaethau a thriniaeth soffistigedig, mae mwy a mwy o bobl yn dod drwyddi ac yn mynd mlaen i fyw bywydau hir, llawn ac iach. Wrth gwrs dyw hynny ddim yn wir am bawb ac ma' canser yn gallu bod yn brofiad torcalonnus mewn sawl ffordd i gymaint o bobl.

Ond os y'n ni yn meddwl am y gair yma fel ryw fath o doomsday a bod y feddylfryd yma yn parhau mewn bywyd bob dydd, yn ein sgyrsiau ac yn y cyfryngau - yna meddyliwch sut ma' plentyn neu berson ifanc yn mynd i ymateb pan eu bod nhw yn cael clywed bod ganddyn nhw ganser.

Dyma fyddwn ni yn ei drafod ar Atebion yr wythnos hon.

Image caption Mae Nia Medi yn disgwyl eich galwadau bnawn Sul

Colli gwallt

Mae profiadau pobl ifanc o ganser yn dra gwahanol i oedolion a phobl hŷn. Mae'n anodd i unrhywun golli gwallt trwy driniaeth chemotherapi neu orfod ymdopi ar ôl llawdriniaeth ddifrifol - ond meddyliwch petai hyn wedi digwydd i chi pan oeddech chi yn yr ysgol - yr adeg honno lle ma' delwedd yn chwar'e rhan enfawr yn eich bywyd a chyfnod pan ma pwysau peer pressure ac arholiadau yn barod yn drom ar eich ysgwyddau.

Dyma ddigwyddodd i Luned Evans pan oedd hi ym mlwyddyn 10 Ysgol Gyfun Gymraeg Plas Mawr yng Nghaerdydd.

Mae hi'n credu'n angerddol bod cansyr wedi newid ei bywyd er gwell a bod ganddi hi lot fawr i ddiolch am y profiadau ddaeth yn sgîl ymladd clefyd Osteosarcoma, sef tiwmor yr esgyrn (ei choes yn achos Luned). Mae hi hefyd am annog i bobl ddechre siarad am ganser yn agored er mwyn chwalu'r stigma sy'n perthyn iddo unwaith ac am byth.

Image caption Mae Luned Evans wedi ymateb yn bositif i glefyd canser

Hodgkin's Lymphona

Oeddech chi'n gwbod hefyd mai Hodgkin's Lymphoma yw'r math o ganser sy'n effeithio fwyaf ar bobl ifanc yn eu harddegau? Na finne chwaith tan yn ddiweddar. Does 'na fawr o sylw yn cael ei roi i'r clefyd yma sy'n effeithio ar gymaint o bobl ifanc.

Ein harbenigwyr yn y stiwdio fydd Dr Heledd Roberts sy'n gofrestrydd haematoleg a Llinos Griffin gafodd driniaeth am glefyd Hodgkinson's Lymphoma pan oedd hi yn yr ysgol.

Eto, ma' na sawl ffordd i chi gysylltu gyda'ch profiadau chi a mae 'na groeso mawr i chi ofyn cwestiynau i'n harbenigwyr yn ystod y rhaglen.

Atebion, C2 BBC Radio Cymru, Dydd Sul, Tachwedd 9, 14:02