'Cefnogaeth yn brin' i gymunedau

Siop gymunedol Dryslwyn
Image caption Dim polisi gan Llywodraeth Cymru i gefnogi cadw asedau lleol yn nwylo'r gymuned

Mae Llywodraeth Cymru yn cael eu beirniadu gan grwpiau ymgyrchu, am iddyn nhw ddiystyrru polisi fyddai'n hwyluso gallu grwpiau cymunedol i sicrhau perchnogaeth ar asedau lleol.

Mae grwpiau cymunedol yn yr Alban yn cael y cynnig cyntaf pan fo tir sydd o ddiddordeb cymunedol yn mynd ar werth.

Yn Lloegr, fel rhan o Ddeddf Gweithredu'n Lleol, mae gofyn gwneud cofnod o werth cymunedol asedau yno.

Gallai'r asedau fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, breifat neu thrydydd sector ac felly'n cynnwys llyfrgelloedd, tafarndai, caeau chwarae, pyllau nofio a siopau.

Wrth i'r asedau gael eu rhestru ar werth, mae gan grwpiau cymunedol yn Lloegr gyfle i ddatgan eu diddordeb i brynu'r lleoliad, yn ogystal ag amser i baratoi cynnig.

'Disgwyliadau mawr'

Fe ddywedodd Lesley Griffiths ei bod yn ymwybodol o "bwysau amser ar Llywodraeth Cymru yn nhermau ddeddfwriaethau ar hyn o bryd" gan ychwanegu ei bod yn bryderus o "ddisgwyliadau mawr ar bwrs cyhoeddus er mwyn galluogi mudiadau cymunedol i brynu asedau".

Ychwanegodd bod y llywodraeth yma'n "gwerthfawrogi cyfraniad mawr cyfleusterau cymunedol ac yn benodol y bobl sy'n eu cefnogi a'u defnyddio tuag at les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru".

Mae Cyfarwyddwr Supporters Direct, Tim Hartley, wedi bod yn cefnogi grwpiau cymunedol yn Lloegr i restru gwerth cymunedol ers i'r ddeddf ddod i rym yno.

Image caption Mae'n bwysig cael man cyfarfod i'r gymuned, meddai Viv Griffiths

Dim trafferth

Dywedodd Mr Hartley wrth raglen Sunday Politics y BBC nad oedd creu deddf "yn ddrud, nac ychwaith yn drafferth mawr."

"Fedra'i ddim gweld rhesymau Llywodraeth Cymru dros beidio cyfuno elfennau o'r Ddeddf Gweithredu'n Lleol sydd mewn lle yn Lloegr er mwyn galluogi cymunedau ar draws Cymru i ddiogelu perchnogaeth rhai o asedau sydd wedi bod ar drafod ers blynyddoedd."

Yn 2008, daeth cyhoeddiad bod swyddfa bost yn Nyffryn Tywi, oedd yn gwasanaethu cymuned ar draws 150 milltir sgwâr, yn cau.

Er mwyn sicrhau bod yn swyddfa bost yn aros ar agor, cafodd y swyddfa ei throsglwyddo yn ôl i'r gymuned leol ac mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ei rhedeg ers hynny.

Dywedodd cyn-wirfoddolwr siop gymunedol Dryslwyn, Viv Griffiths: "Heb y siop, mi fyddwn i ar goll. Yn sicr, fe ddylai Llywodraeth Cymru gamu i mewn a chynnig cymorth. Mae'r lleoliadau yma'n dod a chymuned at ei gilydd a byddai pentrefi'n marw allan heb y math yma o lefydd."