Cymru i gefnu ar record siomedig?

Michael Cheika Image copyright Getty Images
Image caption Michael Cheika yw'r trydydd hyfforddwr i Awstralia mewn 15 mis

Bydd Cymru yn ceisio rhoi diwedd ar eu record wael ddiweddar yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae Cymru wedi colli'r naw gêm ddiwethaf yn erbyn y tîm o hemisffer y de.

Bydd yr hyfforddwr Warren Gatland yn rhoi pwyslais ar y gallu i orffen yn gryf, gan ei fod yn ymwybodol o'r ffaith fod Cymru wedi bod ar y blaen yn y chwe munud olaf yn y tair gem ddiweddara' iddyn nhw golli yn erbyn y Wallabies.

Hwn fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae ar y borfa newydd gafodd ei dadorchuddio i'r cyhoedd yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r wyneb newydd, sy'n gymysgedd o wair naturiol a ffibr, wedi costio £3.1 miliwn.

Daw Awstralia i Gymru ar ôl colli tair gem brawf yn olynol.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mewnwr y Gweilch, Rhys Webb, sy'n llenwi'r crys rhif 9

Hefyd mae gan Awstralia hyfforddwr newydd. Michael Cheika yw'r trydydd hyfforddwr y tîm mewn 15 mis

O ran Cymru, mae Geroge North wedi ei ddewis i chwarae yn y canol yn dilyn anafiadau i Jonathan Davies a Scott Williams.

Mae Liam Williams yn cyrmyd lle North ar yr asgell, tra bod Rhys Webb wedi ei ddewis fel mewnwr yn hytrach na Mike Philips.

O ran y blaenwyr mae Paul James o wedi ei ddewis o flaen Gethin Jenkins fel prop.

Cymru v. Awstralia; Stadiwm y Mileniwm, dydd Sadwrn 8 Tachwedd am 14:30:

Cymru: 15-Leigh Halfpenny, 14-Alex Cuthbert, 13-George North, 12-Jamie Roberts, 11-Liam Williams, 10-Dan Biggar, 9-Rhys Webb; 1-Paul James, 2-Richard Hibbard, 3-Samson Lee, 4-Jake Ball, 5-Alun Wyn Jones, 6-Dan Lydiate, 7-Sam Warburton (capt), 8-Taulupe Faletau.

Eilyddion: 16-Scott Baldwin, 17-Gethin Jenkins, 18-Rhodri Jones, 19-Bradley Davies, 20-Justin Tipuric, 21-Mike Phillips, 22-Rhys Priestland, 23-Cory Allen.

Awstralia: 15-Israel Folau, 14-Adam Ashley-Cooper, 13-Tevita Kuridrani, 12-Christian Leali'ifano, 11-Joe Tomane, 10-Bernard Foley, 9-Nick Phipps; 1-James Slipper, 2-Saia Fainga'a, 3-Sekope Kepu, 4-Sam Carter, 5-Rob Simmons, 6-Sean McMahon, 7-Michael Hooper (capt), 8-Ben McCalman.

Eilyddion: 16-James Hanson, 17-Tetera Faulkner, 18-Ben Alexander, 19-James Horwill, 20-Will Skelton, 21-Matt Hodgson, 22-Will Genia, 23-Rob Horne.