Carchar am fasnachu i bwrpas rhyw

Yn gwadu'r cyhuddiadau: y ddau ddiffynnydd Image copyright Arall
Image caption Roedd y ddau ddiffynnydd wedi gwadu'r cyhuddiadau

Mae dynes wedi cael ei charcharu am wyth mlynedd am fasnachu dwy ddynes o Nigeria i bwrpas rhyw.

Fis diwethaf fe gafwyd Lizzy Idahosa, 24, yn euog o'r drosedd gan Lys y Goron Caerdydd.

Cafodd ei phartner Jackson Omoruyi ei garcharu am ddwy flynedd am geisio celu enillion troseddol.

Roedd Idahosa wedi trefnu bod y menywod yn cymryd rhan mewn defod "juju" yn Nigeria er mwyn codi ofn arnynt a sicrhau y byddant yn ufuddhau iddi.

Fis diwethaf fe wnaeth rheithgor ddyfarnu fod Idahosa - sy'n feichiog ac yn disgwyl plentyn Omoruyi - yn euog o fasnachu merched ledled y DU.

Hefyd fe'i cafwyd yn euog o annog puteindra a chelu enillion troseddol.

Yn ôl yr erlyniad roedd Idahosa wedi gorfodi'r ddwy i weithio mewn puteindai er mwyn ad-dalu £50,000 - dyled am gludo'r ddwy o Nigeria i Brydain ac am ddarparu ffurflenni ffug.

Roedd y puteindai yn cynnwys rhai yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Straeon perthnasol