Gohirio gêm rhwng Y Rhyl a Chaerfyrddin oherwydd tân

Rhyl FC Image copyright Rhyl fc

Oherwydd tân yn stadiwm Y Rhyl, mae gêm Uwchgynghrair Cymru yn erbyn Caerfyrddin bnawn Sadwrn wedi ei gohirio.

Fe gafodd yr ystafelloedd newid a chit y tîm cartref eu difrodi gan y fflamau ddydd Mercher.

Fe ddywedodd y clwb na chawn nhw gynnal gemau nes iddyn nhw dderbyn cymeradwyaeth gan swyddogion iechyd a diogelwch.

Mae'n "amser pryderus" i'r clwb, yn ôl llefarydd, sydd wedi lansio apêl i drwsio'r difrod.