Cymru 28-33 Awstralia

Rhys Webb cais
Image caption Rhys Webb sgoriodd gais cyntaf Cymru, a'i gais cyntaf ef mewn gêm ryngwladol

Roedd 'na ddiweddglo cyfarwydd iawn i'r ornest rhwng Cymru ac Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm bnawn Sadwrn, wrth i'r Wallabies sicrhau buddugoliaeth mewn gêm agos.

28-33 oedd y sgôr derfynol.

Roedd yr hanner cyntaf yn llawn cyffro.

Fe gafodd Rhys Webb ei gais cyntaf dros ei wlad wedi dim ond dau funud.

Fe darodd Awstralia'n ôl ddwywaith, ac Israel Folau oedd yn gyfrifol am ddau gais cyntaf y Wallabies.

Yna, fe lwyddodd cais Alex Cuthbert a throsiad Leigh Halfpenny i ddod â'r sgor yn gyfartal eto.

Daeth cais arall i Awstralia diolch i Tevita Kuridrani.

Anaf i Halfpenny

Bu'n rhaid i Leigh Halfpenny adael y cae ar ôl hanner awr wedi iddo dioddef cyfergyd (concussion), a Cory Allen gymrodd ei le.

Ym munud ola'r hannar cyntaf, fe weithiodd Cymru'n galed ac fe lwyddodd Alun Wyn-Jones i sgorio trydydd cais i Gymru.

Fe gafodd pob cais eu trosi a 21 yr un oedd hi ar yr hanner.

Fe fanteisiodd Awstralia ar gamgymeriadau Cymru yn 20 munud cynta'r ail hanner, gan sgorio dwy gic gosb.

Diweddglo cyffrous

Yna, fe ddyfalbarhaodd Cymru yn y sgrym i sicrhau cais gosb â chwarter awr yn weddill.

Roedd Cymru ar y blaen eto - o bwynt - diolch i drosiad Rhys Priestland.

 llai na 10 munud i fynd, fe gipiodd Awstralia driphwynt arall gyda gôl adlam gan Bernard Foley.

Fe ymestynodd Awstralia eu mantais gyda chic gosb â munud i fynd.

Er i Gymru ennill mantais ym munud ola'r gêm, doedd y fuddugoliaeth ddim i fod, a 28-33 oedd hi i'r Awstraliaid.

Straeon perthnasol