Polisi Lidl: 'Fel penyd yr Oesoedd Canol'

Lidl Image copyright Reuters

Mae polisi iaith archfarchnad Lidl yn "debyg i'r deddfau penyd yn erbyn y Cymry yn yr Oesoedd Canol," yn ôl un mudiad.

Daw sylwadau Dyfodol i'r Iaith wedi i bolisi Lidl UK o wahardd staff rhag siarad ieithoedd heblaw am Saesneg gyda'i gilydd ddod i'r amlwg, yn dilyn erthygl ar Cymru Fyw.

Fe ofynnodd Cymru Fyw i Lidl UK am bolisi iaith y cwmni ddydd Gwener, wedi i ddau weithiwr yn yr Alban ddweud eu bod nhw "wedi cael eu bygwth â diswyddiad" am siarad Pwyleg yn ystod seibiant.

Pan holodd Cymru Fyw beth oedd safbwynt y cwmni am yr iaith Gymraeg, fe gafwyd datganiad gan Lidl UK yn dweud mai polisi'r cwmni ydy bod y gweithwyr yn siarad yn Saesneg 'efo'r cwsmeriaid bob amser waeth beth fo'u hiaith frodorol.

Er hyn, fe gafwyd datganiad pellach gan Lidl brynhawn Sadwrn, ac ar y gwefannau cymdeithasol, mae'r cwmni'n mynnu "na fydden nhw byth yn 'gwahardd' defnyddio'r Gymraeg yn Lidl".

'Iaith swyddogol'

Ddydd Sul, fe ddywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith:

"Rydym wedi ysgrifennu at y cwmni heddiw i'w hysbysu fod polisi o wahardd pobl yng Nghymru rhag siarad Cymraeg yn anghyfreithlon.

"Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Does dim modd i gwmni preifat wahardd iaith swyddogol gwlad."

"Mae gwaharddiad ar y Gymraeg fel hyn yn atgoffa dyn o ddeddfau penyd yr Oesoedd Canol. Does dim modd ei gyfiawnhau mewn cymdeithas wâr.

"Mae'r achos yma'n ei gwneud yn glir bod angen i'r Ddeddf Iaith a phwerau'r Comisiynydd Iaith gwmpasu'r sector preifat."

"Carem hefyd fynegi ein cefnogaeth i Bwyliaid sy'n byw yng Nghymru. Credwn yn angerddol fod gan leiafrifoedd ethnig yr hawl i arfer eu hieithoedd ymhlith ei gilydd."

'Ystyried yr ymateb'

Bu cryn ymateb yn dilyn erthygl Cymru Fyw brynhawn Gwener. Yn dilyn hynny, gofynnwyd eto i Lidl UK am eu polisi.

Brynhawn Sadwrn, fe anfonodd y cwmni ddatganiad o'r newydd at Cymru Fyw, yn datgan eu bod yn deall fod ieithoedd swyddogol eraill yn cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig, ac yn croesawu'r ieithoedd hynny yn eu siopau.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn "gofyn i weithwyr, pan yn bosib, ymateb i gwsmeriaid yn yr iaith mae'n nhw'n dymuno ei defnyddio."

Dywedodd y llefarydd eu bod yn ceisio hybu ac annog gweithwyr sy'n defnyddio sgiliau ieithyddol i helpu cwsmeriaid.

Er hyn, dywedodd fod polisi cyffredinol y cwmni i ofyn i weithwyr gyfathrebu yn Saesneg yn ystod oriau gwaith yn parhau, er mwyn "gostwng nifer camgymeriadau ac adeiladu perthynas lwyddiannus ledled y busnes".

Mynnodd y llefarydd fod gan staff hawl i ddefnyddio unrhyw iaith yn ystod seibiant, er bod y cwmni yn annog staff "i fod yn ymwybodol o'u cyd-weithwyr".

"Yn dilyn digwyddiadau diweddar, fe hoffen ni sicrhau ein staff, cwsmeriaid a'r cyhoedd ein bod ni'n adolygu ein polisiau yn gyson, ac yn ystyried yr holl ymateb sydd wedi'n cyrraedd," meddai.

Ar gyfrifon Facebook a Twitter y cwmni, mae 'na ddatganiad pellach sy'n mynnu "na fydden nhw byth yn 'gwahardd' defnyddio'r Gymraeg yn Lidl. Nac ychwaith yn rhwystro staff rhag siarad Cymraeg â'i gilydd".

Ychwanegodd y datganiad fod y cwmni yn "croesawu'r iaith, ac mae gan rai o'n siopau arwyddion Cymraeg."

Straeon perthnasol