Wrecsam 3-0 Woking

Wrecsam 3-0 Woking

Roedd Wrecsam yn fuddugol ar y Cae Ras bnawn Sul yn erbyn Woking yn rownd gyntaf Cwpan yr FA.

Neil Ashton sgoriodd gyntaf i'r Dreigiau, eiliadau wedi iddo fethu cic o'r smotyn.

Fe ddyblodd Wes York fantais Wrecsam wedi 35 munud o chwarae.

Fe chwaraeodd York ei ran yn y drydedd gôl hefyd, wrth i Andy Bishop selio'r fuddugoliaeth.