Abertawe 2-1 Arsenal

abertawe v arsenal

Abertawe 2-1 Arsenal

Roedd yn bnawn llwyddiannus i Abertawe wedi iddyn nhw guro Arsenal ar y Liberty.

Arsenal ac Alexis Sanchez sgoriodd gynta' wedi 63 munud,

Fe darodd Abertawe'n ôl ymhen chwarter awr diolch i gic rydd Gylfi Sigurdsson.

Dri munud yn ddiweddarach, fe beniodd yr eilydd Bafetimbi Gomis y bêl i'r rhwyd i sicrhau buddugoliaeth i'r Elyrch.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn codi i'r pumed safle yn Uwchgynghrair Lloegr.