Rhybudd i baratoi am fwy o lifogydd

St Mary Street, Cardigan
Image caption Cafodd nifer o gartrefi yn Aberteifi eu taro gan lifogydd yr wythnos ddiwethaf

Mae rhybuddion wedi'u cyhoeddi i baratoi am lifogydd wrth i'r tywydd drwg barhau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud y gallai tir sydd eisoes yn wlyb arwain at lifogydd os bydd y glaw yn parhau.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i gawodydd trymion gyrraedd rhannau helaeth o Gymru nos Lun, gyda'r rhai trymaf i'w disgwyl yn ne Cymru.

Dyw'r rhagolygon ar gyfer gweddill yr wythnos fawr gwell, gyda thywydd ansefydlog a mwy o gawodydd ar eu ffordd.

Mae CNC yn rhybuddio pobl i fod yn fwy gofalus nag arfer ar y ffyrdd, gyda phosibilrwydd o lifogydd os bydd draeniau'n gorlifo.

Mae CNC yn cynghori pobl i gadw llygad ar y rhagolygon, ac i edrych ar eu gwefan am unrhyw rybuddion penodol am lifogydd yn eu hardaloedd nhw.

Gall pobl hefyd gael gwybodaeth am lifogydd drwy ffonio llinell gymorth Floodline ar 0345 988 1188.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.