M4: Mynegi pryder am dir Llywodraeth Cymru

M4 traffic
Image caption Y nod yw adeiladu ffordd newydd er mwyn lliniaru traffig yn ardal twnelau Bryngals

Mae tir ac eiddo gwerth miliynau o bunnoedd ar hyd y llwybr sy'n cael ei ffafrio ar gyfer ffordd lliniaru'r M4 yn ardal Casnewydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, yn ôl gwybodaeth ddaeth i law BBC Cymru.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi gwario dros £20m ar gyflogi arbenigwyr ymgynghorol, er nad ydi'r penderfyniad terfynol am y ffordd osgoi ddadleuol wedi ei wneud.

Yn ôl rhai, mae hyn yn achos pryder gan y gallai fod wedi dylanwadau ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis y "llwybr du" .

Credir y bydd y ffordd lliniaru newydd yn costio tua £1 biliwn.

Fe wnaeth y llywodraeth ystyried tri opsiwn, ond roedd rhai yn mynnu y dylid fod wedi ystyried pedwerydd opsiwn, sef y llwybr glas.

Ers blynyddoedd mae teithwyr a busnesau yn y de ddwyrain wedi bod yn gofyn am ateb i'r broblem o dagfeydd yn ardal twnelau Brynglas, Casnewydd.

'Nôl ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Edwina Hart, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, ddweud ei bod hi'n ffafrio opsiwn y llwybr du - er mai hwn oedd yr opsiwn drytaf.

'Opsiwn Rhatach'

Fe fydd y llwybr du yn croesi pum safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ar lefelau Gwent.

Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu'r llwybr du yn cynnwys grwpiau amgylcheddol, y gwrthbleidiau a dau gyn weinidog Llafur.

Maen nhw wedi gofyn am ystyriaeth o'r llwybr glas yn lle..

Byddai'r cynllun yma yn gweld gwelliannau yn cael eu gwneud i ffyrdd presennol yn ardal Casnewydd, gan ddweud fod hwn yn opsiwn rhatach ac yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.

Image caption Mae'r dotiau melyn yn nodi lleoliadau i'r de o'r M4 (glas) sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar hyd y llwybr du

Mae rhaglen Week In Week Out BBC Cymru wedi cael gwybod bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar dir ac eiddo gwerth £12 miliwn ar hyd y llwybr du. Hefyd mae'r llywodraeth wedi gwario mwy na £20 miliwn ers 1998 ar ffioedd proffesiynol i dalu ymgynghorwyr.

Cwestiynau i'w hateb

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, fod angen gofyn cwestiynau.

"Mae'n cryfhau cais busnes pe bai rhai darnau o dir eisoes yn berchen i Lywodraeth Cymru," meddai.

Ond ychwanegodd y gallai roi'r argraff fod camau wedi eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, er mwyn arwain y drafodaeth a sicrhau bod y llwybr yn mynd i gyfeiriad arbennig.

"Mae hynny yn fy mhoeni, ac rwy'n poeni y gallai hynny fod yn niweidiol i adnoddau - adnoddau sy'n eiddo i'r trethdalwyr. "

Pan ofynnwyd a oedd yna ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddewis y llwybr du oherwydd eu bod yn berchen ar dir ar hyd y llwybr, dywedodd Ms Hart: "Ar ddiwedd y dydd rydym o hyd yn edrych am werth am arian.

"Ein gwaith ni, pe bai ni'n parhau â'r cynllun, yw sicrhau y gwerth gorau o ran y cytundeb."

'Proses ffug'

Mae Eluned Parrott AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar drafnidiaeth, wedi dweud:

"Gyda phob wythnos sy'n mynd heibio, mae 'na dystiolaeth newydd yn awgrymu fod 'na gytundeb ar y ffordd hon yn barod - er gwaetha' barn a phryderon pobl Cymru. Bydd gan aelodau'r cyhoedd hawl i fod yn flin iawn fod y broses ymgynghori yn broses ffug o'r cychwyn, ac nad oedd eu lleisiau'n mynd i gael eu clywed.

"Gydag adolygiad barnwrol, ymchwiliad cyhoeddus a nifer o rwystrau eraill i'w goresgyn, fe ddylai llywodraeth Lafur Cymru dderbyn nawr mai breuddwyd yw eu ffordd, a dim mwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Archwilio Cymru fod yr Archwilydd Cyffredinol yn ystyried cynnwys llythyrau mae o wedi eu derbyn ar y mater.

Dyw penderfyniad terfynol ynglŷn â ffordd lliniaru newydd ddim yn debygol o gael ei wneud tan ar ôl ymchwiliad cyhoeddus, a hynny'n dilyn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016.

Bydd Week in Week Out ar BBC One Wales am 22:35 nos Fawrth.

Straeon perthnasol