Diwrnod i gofio pobl trawsrywiol

Jenny-Anne Bishop Image copyright Jenny-Ann Bishop
Image caption Mae Jenny-Anne Bishop wedi byw yn Y Rhyl am wyth mlynedd

Ar 20 Tachwedd bob blwyddyn mae diwrnod yn cael ei gynnal i gofio am bobl drawsrywiol sydd wedi cael eu llofruddio neu wedi lladd eu hunain.

Un o'r rhai fydd yn nodi'r diwrnod ydy Jenny-Anne Bishop, o Lundain yn wreiddiol, ond sydd wedi byw yn Y Rhyl ers wyth mlynedd.

Fe wnaeth hi newid ei rhyw yn 60 mlwydd oed, a bu'n sôn am ei stori bersonol wrth BBC Cymru Fyw.

"Os ydych chi'n fenyw trawsrywiol, fel yr ydw i, 'da chi erioed wedi teimlo eich bod yn ferch neu'n fenyw, hyd yn oed os ydy'ch corff yn dweud rhywbeth gwahanol.

"Ac os ydych yn ddyn trawsrywiol, yn eich pen 'da chi bob amser wedi bod yn wrywaidd, hyd yn oed os oedd eich tystysgrif geni yn dweud eich bod yn fenyw.

"Roeddwn i'n gwybod 'mod i'r rhyw anghywir pan oeddwn yn ifanc iawn - tua thair neu bedair.

"Roeddwn i eisiau bod yn ferch yn union fel fy chwaer, ond doedd fy nheulu ddim yn cytuno, na'm hysgol, na'm heglwys a phan edrychais i ar bethau yn fwy manwl pan oeddwn i'n y brifysgol, y cyngor oedd priodi ac y byddai'r teimladau yna i gyd yn mynd i ffwrdd, ond wrth gwrs dydyn nhw ddim.

Newid rhyw yn 60 oed

"Erbyn hyn roedd gen i deulu a gwraig i edrych ar eu holau. Felly nes i ddim dechrau'r broses o newid fy rhywioldeb nes 'mod i dros 60 mlwydd oed.

"Roeddwn yn ffodus iawn yn fy mhriodas - roedd fy ngwraig yn cydymdeimlo â'm teimladau i, fel petai, felly neilltuais amser bob wythnos i fod yn Jenny-Anne ac roedd hynny yn fy nghadw i fynd nes i mi gyrraedd amser pan ddaeth fy mhriodas i ben.

"Roeddwn wedi bod yn briod am 31 mlynedd, amser hir.

"Roedd fy rhieni, oedd yn erbyn fy awydd i fod yn Jenny-Anne, erbyn hyn yn anffodus wedi marw ac felly doeddwn i ddim yn gweld dim rheswm pam na ddylen i ddechrau'r broses o newid ac yn 2005 es i weld fy meddyg teulu.

"Newidiais fy rhyw yn gyfreithiol ar ddiwedd 2007 a chefais fy llawdriniaeth yn 2010 felly, fel y gwelwch, mae'n broses eitha' hir.

Image copyright www.grrlAlex.com
Image caption Mae Jenny-Anne Bishop yn gwneud llawer o waith i godi ymwybyddiaeth am bobl drawsrywiol

Tŷ cymunedol

"Roeddwn i wedi byw gydag Elen, fy mhartner presennol, ers rhyw ddwy flynedd ac yna daeth y tŷ wrth ymyl lle 'da ni'n byw ar werth. Roedd fy rhieni newydd adael arian i mi, felly prynais y tŷ i'w ddefnyddio fel tŷ cymunedol ac mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o bethau.

"Rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau amrywiol gyda grwpiau lleol, ac ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n siŵr os ydyn nhw am newid, i ddod a cheisio byw felly cyn eu bod yn dweud wrth bawb.

"Ac rydym hefyd yn defnyddio'r tŷ o bryd i'w gilydd ar gyfer pobl sy'n cael eu gwneud yn ddigartref oherwydd eu trawsrywioldeb.

"Yn yr un modd byddwn ni ambell waith yn gofalu am bobl ar ôl iddyn nhw gael llawdriniaeth, mae'n rhywle i ddod i arfer a chael cefnogaeth.

"Yn gyffredinol dydyn ni ddim wedi cael unrhyw broblemau gyda'r bobl o'n cwmpas. Rydw i ac Elen wedi ceisio bod yn gymdogion da a thawel a pharhau gyda'n bywydau, ac rydym yn edrych ar ôl y tai fel nad ydyn ni'n tarfu ar y cymdogion ac maen nhw wedi dod i delerau â'r sefyllfa yn weddol gyflym.

Image copyright Jenny-Anne Bishop
Image caption Roedd Jenny-Anne Bishop yn 60 oed erbyn iddi newid ei rhyw

"Mae pobl yn gwybod bod gan Y Rhyl hanes fel lle gwyliau ac, os feddyliwch am yr adloniant oedd ar gael yn lleol, roedd pobl oedd yn traws-wisgo yn eitha' cyffredin ac roedd 'na ddynwaredwr benywaidd o'r enw Billie Manders, a ymddangosodd yn rheolaidd yn Y Rhyl a oedd yn enwog o ar draws y wlad.

'Achlysur trist'

"Mae Diwrnod y Cofio Trawsrywiol yn ddigwyddiad i gofio'r holl bobl ledled y byd sydd wedi cael eu lladd neu wedi lladd eu hunain oherwydd y pwysau o fod yn drawsrywiol.

"I nodi'r diwrnod eleni byddwn yn cynnal digwyddiad coffa a bydd llyfr o goffadwriaeth i bobl os oes ganddyn nhw rywun arbennig y maen nhw am ei gofio.

"Felly mae diwrnod y cofio yn achlysur eitha' trist, ond hefyd mae gennym obaith yn ein pobl ifanc i barhau gyda'r frwydr dros hawliau a rhyddid pobl traws i fod yn nhw eu hunain."

Straeon perthnasol