Bod yn drawsrywiol yng Nghymru

Mae Nia Medi yn cyflwyno Atebion, cyfres o raglenni ar BBC Radio Cymru sy'n trafod y pynciau sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru.

Yn ei blog wythnosol i BBC Cymru Fyw mae Nia yn trafod pwnc sydd ddim yn cael ei drafod yn aml ymhlith Cymry Cymraeg - trawsrywioldeb.

Image copyright Empics
Image caption Nia Medi gyda ei ffrind Scott

Clwb hoyw

Nes i gwrdd â Scott gyntaf mewn clwb nos hoyw yn Abertawe nôl yn 1997 - y dyddie hynny pan oedd rhaid i chi gnocio ar ddrws y clwb a sicrhau'r bobl yno eich bod yn hoyw a'ch bod chi ddim am ddod mewn er mwyn achosi trafferth.

Roedd 'na lot o ymosodiadau homoffobaidd yn digwydd ar y pryd ac felly, er mwyn i chi fod yn chi eich hun, roedd yn rhaid i chi fod yn ofalus.

Dwi'n cofio clywed chwerthiniad Scott am y tro cyntaf a'i wên fawr o glust i glust wrth iddo sipian ei ddiod wrth y bar, wedi ei amgylchynu gan ffrindiau a pawb yn mwynhau ei gwmni. Dyna sut foi yw Scott chi'n gweld - un o'r bobl 'na sy'n nabod pawb a phawb yn ei nabod e.

Anhapus tu mewn

Ond ar y pryd, merch hoyw oedd Scott, merch anhapus iawn ar y tu mewn. Tu ôl i'r wên fawr a'r chwerthin uchel roedd 'na dristwch torcalonnus achos doedd Scott ddim yn uniaethu â'i gorff biolegol oedd yn achosi poen mawr iddo.

Dros y blynydde daeth y ddau ohonon ni yn ffrindiau pennaf, cyfeillgarwch sydd bellach wedi para 17 mlynedd. Aeth ei iselder yn waeth dros y blynyddoedd wrth iddo sylweddoli mwy a mwy ei fod wedi ei eni yn y corff anghywir a ddim yn gwybod beth i'w wneud na ble i droi.

Bydde fe'n torri ei galon bob bore wrth edrych ar ei hun yn y drych, gydag adlewyrchiad dieithr yn syllu 'nôl arno. Aeth pethe o ddrwg i waeth wrth i'r iselder gydio ynddo ac un bore daeth yr alwad ei fod wedi trio lladd ei hun.

Dwi'n dal i ddiolch i'r nefoedd bod e heb lwyddo - alla i ddim dychmygu bywyd hebddo.

Llawdriniaeth

Ar ôl hynny aeth Scott at y meddyg ac egluro ei sefyllfa a dechreuodd y broses. Newidiodd ei enw i Scott Maxwell. Cafodd therapi seicolegol, hormonau er mwyn dechrau'r broses o newid ei gorff, ac ar bnawn oer ym mis Rhagfyr 2013 fe gafodd ei lawdriniaeth gyntaf mewn ysbyty yn Llundain.

Dwi erioed wedi ei weld e mor hapus, mor gyfforddus yn ei hun ac o'r diwedd mae e wirioneddol yn mwynhau bywyd. Mae ganddo swydd llawn amser am y tro cyntaf ers sbel a newydd fod ar ei wyliau cynta 'da'r bois. Mae'r broses a'r newid yma nid yn unig wedi newid ei fywyd, ond wedi achub ei fywyd.

A dyma y byddwn ni yn ei drafod ar Atebion yr wythnos hon - bod yn berson ifanc trawsrywiol yng Nghymru. Fel allwch chi ddychmygu dyw hi ddim yn hawdd, ac mae sicrhau help seicolegol a chael llawdriniaeth yn broses anodd.

Image caption Ethan Jenkins o Gaerdydd

Goddefgarwch?

Byddwn ni'n clywed profiadau pobl ifanc sy'n profi hyn ar hyn o bryd. Doedd meddyg Ethan sy'n 18 o Gaerdydd, erioed wedi clywed am y term 'trawsrywiol' pan aeth am ei apwyntiad yn ddiweddar ac mae Stacy o Lanrug, gafodd ei geni yn fachgen, yn sôn am ei rhyddhad o allu byw fel merch erbyn hyn.

Gydag agweddau cymdeithas yn fwy goddefgar nag erioed at bobl hoyw, yr hyn dwi wedi ei ddysgu gan bobl ifanc trawsrywiol ar y daith yma yw bod gwaith i'w wneud i wneud yn siŵr eu bod yn cael yr un hawliau a bod yna ragor o oddefgarwch yn cael ei ddangos tuag atyn nhw.

Yn ymuno â fi yn y stiwdio bydd Ed, bachgen trawsrywiol o Aberystwyth, Prif Weithredwr Youth Cymru - Helen Mary Jones, ac i roi 'chydig o brofiad bywyd i'r mater bydd Rona Rees o ardal Drefach yng Nghwm Gwendraeth.

Bellach yn ei chwedegau, mae Rona, oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Raymond, hefyd yn rhannu ei phrofiadau o'r broses drawsnewid.

Fel arfer dwi'n edrych 'mlaen at eich cwmni ac ma' na sawl ffordd i chi gysylltu.

Atebion, C2 BBC Radio Cymru, Dydd Sul, Tachwedd

Image copyright Dafydd Owen
Image caption Stacy o Lanrug sy'n siarad am ei phrofiad o drawsrywioldeb ar Atebion bnawn Sul