Ail-agor cwest milwr gafodd ei gosbi

Gavin Williams

Bydd cwest i farwolaeth milwr o Gymru fu farw ar ôl cael ei gosbi'n answyddogol ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn yn 2006 yn cael ei ail-agor.

Roedd Gavin Williams, 22 ac o Hengoed, yn aelod o Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol ym marics Tidworth yn Wiltshire.

Roedd rhaid iddo wneud ymarfer corff dwys iawn am fod swyddogion yn ei gosbi.

Cafwyd tri milwr yn ddieuog o'i ddynladdiad yn 2008 ond mae ei deulu wedi gofyn am ail-agor y cwest.

Bydd adolygiad cyn y cwest yn cael ei gynnal ar 27 Tachwedd.