Mwy o ddatganoli i Gymru erbyn mis Mawrth 2015

Senedd, Bae Caerdydd
Image caption Y gred yw y byddai'r fframwaith newydd yn ei gwneud yn gliriach pa bwerau sy'n perthyn i Fae Caerdydd

Mae gweinidogion yn San Steffan wedi addo cyflwyno cynigion "uchelgeisiol" ar gyfer datganoli pellach i Gymru erbyn mis Mawrth 2015.

Yn ôl y Farwnes Randerson, o'r Democratiaid Rhyddfrydol, byddai'r newid yn cynnwys symud i fframwaith ble mae rhai pwerau'n cael eu cadw'n ôl gan Lundain.

Ychwanegodd y byddai hyn yn "rhoi llawer mwy o eglurder i'r setliad datganoli", gan ei gwneud yn llai tebygol y byddai achosion yn ymwneud â grymoedd y Cynulliad yn cael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys.

Dywedodd fod 'na wendidau gyda'r model ar hyn o bryd, o gyflwyno grymoedd penodol i Fae Caerdydd, a bod yna gytundeb ar draws y pleidiau i newid y drefn.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno "fframwaith o bwerau sy'n cael eu cadw'n ôl, a chyfres o ymrwymiadau i ehangu ar ddatganoli, sydd wedi cael sêl bendith pob plaid" erbyn Dydd Gŵyl Dewi'r flwyddyn nesa'.

'Amserlen uchelgeisiol'

"Y bwriad yw cael cefnogaeth ar draws y pleidiau a sicrhau fod Mesur Cymru'n symud ymlaen yn ystod cyfnod cynnar y Senedd nesa'," ychwanegodd yr Arglwyddes Randerson.

"Mae'n amserlen uchelgeisiol ond mae'n realistig ac mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i geisio sicrhau hyn. Rydym eisoes yn gweithio ar y peth.

"Mae'n gyfle hanesyddol i sicrhau cam fawr tuag at sicrhau setliad datanoli hirdymor a theg i Gymru, fel nad ydyn ni'n gorfod trafod yn feunyddiol ynghylch y pwerau nesa' ar gyfer Cymru."

Daeth cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ôl pwysau am fwy o eglurder ynglŷn â phwerau'r Cynulliad.

'Sicrhau'r gorau'

Dywedodd yr Arglwydd Elystan-Morgan fod pwerau'n cael eu trosglwyddo "yn gyfangwbl dan un pennawd" trwy'r fframwaith dan sylw, "gan sicrhau'r gorau y gall datganoli ei gyflawni".

Ychwanegodd fod y system bresennol o drosglwyddo rhai pwerau penodol yn fwy trwsgl, gan ddangos "gwendidau" yn y system ac y byddai'n "arwain at drafferthion yn y dyfodol".

Byddai'r newid at fodel o gadw pwerau'n ôl yn arwydd o'r "Cynulliad yng Nghymru'n aeddfedu".

Roedd yr Arglwydd Morris o Aberafan, o'r blaid Lafur, hefyd yn gefnogol o'r newid, gan ddweud ei bod yn bryd i "wneud yn iawn am gamgymeriadau" wrth ymdrin â'r Cynulliad.

Rhybudd

Ond rhybuddiodd y Ceidwadwr John Gummer, sy'n cael ei adnabod fel yr Arglwydd Deben, fod y Senedd yn "teimlo'u ffordd trwy'r tywyllwch" wrth ddelio â'r mater.

"Mae'r DU yn rhy bwysig i'w wneud yn destun cyfres o benderfyniadau ar hap am wahanol rannau ohono."

Roedd y Farwnes Morgan o Drelái, ar ran Llafur, yn dweud fod y model cyfansoddiaol presennol ar gyfer Bae Caerdydd "wedi dyddio", a bod ei phlaid eisiau "symlder ac eglurder llawn", gan nad oedd hi'n glir ar hyn o bryd pa bwerau fyddai'n cael eu datganoli i Gymru.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd Dr Owain ap Gareth, o Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru:

"Rydym yn gobeithio y bydd y cytundeb trawsbleidiol yn parhau ac y bydd pob plaid yn sicrhau fod y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn cael ei weithredu'n gynnar yn y Senedd nesa'.

"Mae model fel hyn, o gadw pwerau yn ôl, yn bwysig am ei fod yn gwneud yn glir pa lywodraeth sy'n gyfrifol am ba bolisi, gan felly ei gwneud hi'n haws i drigolion ddwyn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyfri'.

"Gyda deddfwriaeth Gymreig yn aml yn cael ei throsglwyddo i'r Goruchaf Lys i benderfynu ar y mater hwn, mae'n hanfodol ei gwneud yn glir pa bwerau sy'n perthyn i Gymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.