Oedi yn achosi pobl 'i fynd yn ddall' yng Nghymru

Prawf llygaid Image copyright PA
Image caption Mae cyswllt rhwng mynd yn ddall ag iselder mewn unigolion oedrannus

Mae pobl yn mynd yn ddall yn ddiangen tra ar restrau aros hir yng Nghymru, yn ôl elusen yr RNIB.

Yn ôl yr elusen, nid yw clinigau yn gallu delio gyda'r cynnydd yn y salwch sy'n achosi pobl i golli eu golwg, fel diabetes a gordewdra.

Mae staff wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "anhrefnus" a "hollol beryglus" gyda chleifion ar adegau yn aros blynyddoedd am apwyntiad.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nid yw'r adroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol yng Nghymru.

Pwyslais ar dargedau

Mae'r adroddiad yn dweud bod pwysau gormodol yn cael ei roi ar gyrraedd targedau apwyntiadau cyntaf, a bod ail apwyntiadau a'r driniaeth sydd i ddilyn yn dioddef oherwydd hyn.

Yn aml, meddai'r elusen, mae'n rhaid i gleifion sydd angen apwyntiadau pellach aros yn llawer hirach nac y dylen nhw.

Mae'r elusen yn amcan bod 48 o gleifion yn mynd yn ddall yn y cyfnod o aros i dderbyn triniaeth mewn clinigau llygaid.

Mae'r amcan wedi ei seilio ar ffigyrau gan un bwrdd iechyd, ond mae'r elusen yn dweud bod meddygon o bob ardal o Gymru yn teimlo bod cleifion yn colli eu golwg tra ar restrau aros.

Dim cysondeb

Ar hyn o bryd, mae £119.2 miliwn yn cael ei wario yng Nghymru ar ofal offthalmoleg.

Mae'r RNIB yn galw am sefydlu systemau newydd er mwyn gallu blaenoriaethu apwyntiadau unigol yn unol â angen clinigol y claf.

Dywedodd Llywydd Coleg Brenhinol i Offthalmolegwyr, yr Athro Caroline MacEwen: "Mae'r adroddiad yn amlygu maes sy'n peri gofid mawr, mae cleifion o fewn y system iechyd yn cael eu colli a'u niweidio."

"Mae atal cleifion rhag mynd yn ddall, mewn achosion lle mae hi'n bosib osgoi hynny, yn faes dylai gael blaenoriaeth gan bawb sy'n ymwneud a gofal llygaid."

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi amau canfyddiadau'r elusen.

Dywedodd llefarydd nad yw'r adroddiad "sydd eisoes yn chwe mis oed" yn "adlewyrchu sefyllfa bresennol y gwasanaethau yng Nghymru".

"Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y nifer o bobl sy'n cael eu cyfri' fel bod a nam ar eu golwg yng Nghymru wedi disgyn bob blwyddyn yn y bum mlynedd diwethaf."

Straeon perthnasol