Meddyg yn 'lloerig' am feirniadaeth 'annheg' o'r GIG

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Owain Clarke yn holi Dr Alan Rees

Mae un o feddygon mwyaf blaenllaw Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi'n "annheg" awgrymu fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mewn argyfwng, gan ddweud fod y feirniadaeth ddiweddar o'r Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn "warthus".

Yn ôl Dr Alan Rees, Is-Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, does dim angen i'r Gwasanaeth Iechyd ymddiheuro am y gofal mae'n ei ddarparu - er ei fod yn cydnabod bod angen datrys problemau penodol.

Daw sylwadau Dr Alan Rees yn sgil adroddiad newydd y coleg sy'n honni fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, fel pobman arall, yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi honni fod cleifion o Gymru yn cael gwasanaeth iechyd israddol, ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad yw hynny'n wir.

Dadl yn dwysau

Mi ddwysaodd y ddadl yn ddiweddar gyda chyhoeddiad y Daily Mail o gyfres o adroddiadau oedd yn honni bod gofal gwael a methiannau difrifol yng Nghymru, rhywbeth y gwnaeth Llywodraeth Cymru wrthod.

Image caption Mae angen newid i sicrhau nad yw'r gwasanaeth iechyd yn dod yn "bêl-droed gwleidyddol"

Mae Dr Rees, o Goleg Brenhinol y Meddygon yn dweud ei fod yn "lloerig" gyda'r honiadau gan ychwanegu ei fod hi'n "hurt awgrymu fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mewn rhyw ffordd yn israddol".

Dywedodd ei fod yn "siomedig iawn" a'i fod yn poeni bod y "feirniadaeth yn tanseilio gwaith caled a phroffesiynoldeb miloedd o weithwyr".

"Yn gyffredinol yn fy mhrofiad i fel meddyg, mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru mor dda ac y gallen nhw fod dan yr amgylchiadau," meddai.

"Dydw i ddim yn gweld bod angen ymddiheuro am safon y gofal yr ydyn ni'n ei roi yng Nghymru o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei gynnig dros y ffin yn Lloegr.

"Efallai bod gan rannau o Loegr adnoddau gwell a dydyn ni yng Nghymru ddim yn defnyddio gofal preifat i'r un graddau - felly mae'r GIG yn rhoi gofal mwy cynhwysfawr, yn debyg i faes addysg.

"Felly mae llawer o faterion cymhleth ond mae symleiddio hynny i sgorio pwyntiau yn annheg."

Problemau i'w datrys

Image caption Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd wrthod honiadau yn y wasg bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dioddef oherwydd methiannau difrfol

Serch hynny mae Dr Rees yn cydnabod fod angen i'r Gwasanaeth Iechyd yma, fynd i'r afael a phroblemau ar frys, am fod diffyg adnoddau yn rhoi pwysau ar y wasanaeth.

Mae'n rhaid i'r GIG ddelio gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, ac mae'r nifer sy'n mynd i'n hysbytai yn cynyddu bob blwyddyn.

Tra bod llawer o'r problemau yma yn digwydd ar draws y DU, mae'r adroddiad yn dweud bod sefyllfa Cymru yn golygu bod angen i'r GIG yma ddatblygu datrysiad penodol.

Un awgrym y mae'r Coleg Brenhinol yn ei gynnig yw datblygu hyfforddiant i sicrhau bod mwy o bobl yn astudio meddygaeth a bod meddygon ifanc yn aros yma.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw gwleidyddion a rheolwyr yn rhoi digon o ryddid i feddygon ddatblygu ac arwain newidiadau ymarferol.

Image caption Mae'r Dr Rees yn cydnabod bod problemau, ond dim mwy na mewn ardaloedd eraill o'r DU

Yn ôl yr adroddiad, mae angen newidiadau mwy o fewn y GIG i'w hatal rhag dod yn "bêl-droed gwleidyddol".

"Dwi'n credu mai'r bobl all gynllunio'r gwasanaethau orau yw'r bobl sy'n eu darparu nhw os oes consensws clinigol - a dyma'r ffordd orau o wneud hyn yn ardaloedd Abertawe neu Aberystwyth er enghraifft...

"Rydyn ni'n dweud wrth wleidyddion am wrando ar y consensws clinigol a gyda'n gilydd gallwn ni gyrraedd y nod sef gofal iechyd gwell."

'Cleifion yn ganolog'

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud y dylai lleisiau meddygon a chleifion fod yn ganolog i benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma.

"Mae'r penderfyniadau yr ydyn ni'n eu gwneud wedi eu seilio ar y dystiolaeth glinigol ddiweddaraf ac mae'n rhoi cleifion yn gyntaf gyda'r bwriad o wella gofal iechyd y genedl.

"Mae hynny'n cynnwys ein cynllun newydd pedair blynedd i wella gofal sylfaenol fel bod y mwyafrif o ofal y GIG yn cael ei roi yn y gymuned, yn agosach i gartrefi pobl ac yn y pendraw yn lleihau'r angen i bobl fynd i ysbytai lle'n bosib."

Straeon perthnasol