Dim lleihad ar ddi-weithdra i Gymru

Canolfan waith
Image caption 6.6% o bobl Cymru yn parhau i fod allan o waith, yr un ffigwr a'r chwarter diwethaf

Mae'r gyfradd o bobl sy'n ddi-waith wedi aros yn ei unfan yng Nghymru, er bod lleihad yng ngweddill y DU, yn ôl ffigyrau chwarterol y Swyddfa Ystadegau.

Mae'r ffigyrau ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi yn dangos bod 6.6% o bobl Cymru yn ddi-waith, o'i gymharu â 6% o'r DU yn ei gyfanrwydd.

Er bod y ffigyrau yn dangos bod 20,000 yn llai o bobl yn ddi-waith mewn cymhariaeth â'r llynedd, mae hefyd 24,000 yn llai o bobl yn gweithio na'r un cyfnod yn 2013.

Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae'r gyfradd o bobl mewn gwaith wedi gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae cyflogaeth dros y DU wedi cynyddu o bron i 700,000 yn ystod yr un cyfnod.

Dros y DU, mae'r gyfradd o bobl ddi-waith wedi lleihau o 115,000 rhwng Gorffennaf a Medi - 1.96 miliwn o bobl sydd heb waith erbyn hyn.

Dyma'r 18fed tro yn olynnol i'r ffigyrau diweithdra chwarterol ostwng.

'Adfywiad yn parhau'

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod polisïau'r llywodraeth "yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru ac mae ein hadfywiad yn parhau".

Ychwanegodd bod gwaith hyrwyddo'r llywodraeth yn "helpu i ddiogelu swyddi a denu cyfleoedd newydd i Gymru".

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, bod "creu swyddi yn rhan ganolog o'm cynllun i adeiladu economi gryfach".

"Rydym ni wedi helpu i greu 100,000 o swyddi newydd yn y sector breifat ers yr etholiad yn 2010, ond mae mwy i'w wneud eto."

'Siarad gwag'

Ymateb llugoer oedd i'r ffigyrau gan lefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth: "Mae'r ffigyrau a ryddhawyd heddiw yn cadarnhau ein hamheuon: siarad gwag yw llawer o'r sôn am adferiad.

"Adferiad taenlen yw hwn a all, ar yr olwg gyntaf yng ngoleuni ystadegau'r DG, edrych yn llewyrchus, ond o graffu dan yr wyneb, fe welwn fod cyfoeth a chyfle wedi eu cywasgu i lai o sectorau, heb fod mewn digon o ardaloedd, ac o les i lai o bobl.

"Mae Plaid Cymru eisiau rhoi mwy o rym i'r bunt Gymreig trwy ddyfarnu mwy o gontractau cyhoeddus i gwmniau Cymreig - gallai hynny greu hyd at 50,000 o swyddi newydd, ac y mae gwir angen am hyn."

Mae Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn y Busnesau Bach, Iestyn Davies, wedi ymateb drwy ddweud: "Tra bod y gyfradd ddiweithdra ar draws y DU wedi gostwng unwaith eto, mae cyfradd ddiweithdra Cymru wedi aros yn ei hunfan.

"Mae'r duedd hon yn cyd-fynd â chanlyniadau ein harolwg ni, sy'n dangos bod cwmniau bychain a chanolig yng Nghymru'n llai hyderus na chwmniau tebyg ar draws y DU."

Straeon perthnasol