Cymru yn croesawu cewri y Môr Tawel

cymru Image copyright Getty Images

Brynhawn Sadwrn, fe fydd Cymru yn wynebu eu hail wrthwynebwyr o'u grŵp Cwpan y Byd, a hynny ar ôl colli o drwch blewyn i Awstralia y penwythnos diwethaf.

Er i Gymru fod yn ffefrynnau, mae'r tîm o'r Môr Tawel wedi llwyddo i gynhyrfu'r Cymry yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd Fiji yn gyfrifol am wthio Cymru allan o Gwpan y Byd yn 2007 gyda chais hwyr. A'r tro diwethaf i Fiji ymweld â Stadiwm y Mileniwm bedair blynedd yn ôl, llwyddodd yr ymwelwyr i orffen y gêm yn gyfartal.

Ond gall Cymru ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi trechu Fiji 66-0 yn eu gem ddiwethaf yng Nghwpan y Byd 2011.

Wyth newid i garfan Cymru

Mae Warren Gatland wedi gwneud wyth newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Awstralia. Wedi dweud hynny, mae wyth o chwaraewyr Llewod Prydain ac Iwerddon ymhlith y dechreuwyr eto'r wythnos hon.

Bydd Gethin Jenkins, y prop pen rhydd, yn gapten, gyda Justin Tipuric yn cymryd lle Sam Warburton tra ei fod o'n gorffwys.

Bydd Mike Phillips a Rhys Priestland yn safleoedd yr hanneri cefn a bydd Scott Williams, sydd wedi gwella o anaf, yn ymuno â Jamie Roberts yn y canol.

Y Tîmau

Cymru: 15-L Williams, 14-Cuthbert, 13-S Williams, 12-Roberts, 11-North, 10-Priestland, 9-M Phillips; 1-Jenkins (capten), 2-Baldwin, 3-Lee, 4-Davies, 5-Charteris, 6-Lydiate, 7-Tipuric, 8-Faletau

Ar y fainc: 16-E Phillips, 17-Smith, 18-R Jones, 19-A W Jones. 20-King, 21-R Williams, 22-Hook, 23-Allen

Fiji: 15-Talebula, 14-Nayacalevu, 13-Goneva, 12-Nadolo, 11-Tikoirotuma, 10-Matavesi, 9-Matawalu; 1-Ma'afu, 2-Koto, 3-Saulo, 4-Nakarawa, 5-Ratuniyarawa, 6-Waqaniburotu, 7-Matadigo, 8-Qera (capten),

Ar y fainc: 16-Talemaitoga, 17-Yanuyanutawa, 18-Colati, 19-Cavubati, 20-Ravulo, 21-Seniloli, 22-Ralulu, 23-Nagusa.

Straeon perthnasol