Cyrch cyffuriau: Arestio chwech

Mae'r heddlu, sy'n rhan o grych Operation Scorpion, wedi arestio chwech o ddynion rhwng 33 a 47 oed yn ardaloedd Bangor a Manceinion.

Mae'r chwech wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth yr heddlu hefyd sicrhau gwarant i archwilio nifer o adeiladau.

Dywedodd y ditectif arolygydd Arwyn Jones, sy'n arwain y cyrch: "Ar ôl i bobl gael eu harestio yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth yr heddlu ddod yn ymwybodol o ragor o weithredoedd anghyfreithlon gan gangiau proffesiynol yn yr ardal.

"Fel rhan o'r ymgyrch rwy'n siwr y bydd yna fwy o arestiadau maes o law, ac y bydd yr heddlu yn dod o hyd i fwy o gyffuriau."

Dywedodd hefyd ei fod yn apelio hefyd ar unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â chyflenwi neu gynhyrchu cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu yn ddienw drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.